Syniadau magu plant Llywodraeth Cymru yn 'fychanol'

  • Cyhoeddwyd
Plentyn a rhiantFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ambell riant wedi disgrifio syniadau gan Lywodraeth Cymru ar dechnegau positif o fod yn rhiant yn "fychanol".

Mae'r ymgyrch yn cael ei lansio i geisio cynorthwyo rhieni i "ddeall y buddion o ddefnyddio technegau positif" wrth fagu plant.

Mae eraill wedi canmol ymgyrch 'Magu plant. Rowch amser iddo', dolen allanol y Llywodraeth.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, does ganddyn nhw ddim bwriad gosod rheolau, dim ond rhannu syniadau.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Kirsty Maniatt, mae rhieni yn gwneud yr hyn sy'n gweithio i'r teulu

Mae'r ymgyrch yn cael ei lansio wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyflwyno deddf sy'n gwahardd rhiant rhag taro plentyn.

Ond mae'r Llywodraeth wedi cael ei beirniadu gan rai am gynnig cyngor sylfaenol iawn, sy'n cynnwys:

  • Os yw eich plentyn yn eich brathu, peidiwch â tharo neu frathu'n ôl. Bydd hyn yn brifo'r plentyn a chyfleu'r neges anghywir fod ymddygiad o'r fath yn dderbyniol;

  • Os yw eich plentyn yn gwlychu'r gwely, peidiwch â'i gosbi, feirniadu na gwneud hwyl am eu pen;

  • Ceisiwch osgoi siarad yn negyddol am y plentyn. Ceisiwch ysgogi ymdrech;

  • Bydd bygwth eich plentyn gyda phethau i godi braw arno, fel "bydd yr heddlu yn mynd â thi i ffwrdd" yn gwneud eich plentyn yn bryderus a gallai arwain at fwy o ymddygiad digroeso, yn hytrach na llai;

  • Ni ddylai plant sy'n iau na 18 mis oed edrych ar sgriniau electroneg o gwbl;

  • Dylai amser sgrin gael ei gyfyngu i awr y dydd ar gyfer plant rhwng dwy a phump oed, fe ddylai plant ac oedolion osgoi edrych ar sgrîn cyn amser gwely.

Yn ôl Kirsty Maniatt sy'n fam i blentyn 10 oed a merch wyth oed "does dim ateb cywir nac anghywir. Rydych yn gwneud yr hyn sy'n gweithio i chi fel teulu."

Dywedodd Ken Frater sy'n daid i saith o blant ei fod yn gwerthfawrogi fod "rhai pobl angen cyngor tra bod eraill ddim".

'Unigryw'

Wrth ymateb i'r feirniadaeth dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y wefan wedi'i datblygu i gynorthwyo seicolegwyr addysg, ymwelwyr iechyd ac arbenigwyr magu plant.

"Mae pob rhiant a phob plentyn yn unigryw a dyw'r wefan ddim wedi'i dylunio i osod rheolau y dylai rieni eu dilyn.

"Ei bwriad yw cynnig syniadau i rieni er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau ynglŷn â'r hyn allai weithio ar gyfer eu plentyn a'u teulu."

Ychwanegodd y llefarydd fod y wefan yn cynnig cyngor ar "nifer o rinweddau" gan gynnwys fideos, a bydd blogiau a "vlogs" yn cael eu cyhoeddi'n fuan gan rieni.