Carwyn Jones: Marchnad rydd yn 'niweidiol' i ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Byddai agor y farchnad fwyd i gynnyrch rhad o wledydd tramor yn cael "effaith niweidiol" ar ffermwyr Cymru, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones na fyddai'r sector amaethyddol yn gallu cystadlu petai bwyd "sydd yn aml o ansawdd is" yn cael ei fewnforio heb gyfyngiadau.
Daeth y sylwadau fel rhan o ddadl ehangach o blaid y Deyrnas Unedig yn parhau mewn undeb tollau gyda'r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.
Ond mae Theresa May yn mynnu fod rhaid i'r DU adael yr undeb tollau er mwyn bod yn rhydd i fasnachu gyda gwledydd eraill o amgylch y byd.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Allanol y Cynulliad, dywedodd Mr Jones y gallai gefnogi undeb tollau dros dro heb ddyddiad terfyn pendant, gan ei bod hi'n bwysig fod y DU yn gadael yr undeb tollau "ar yr amser cywir ar gyfer y DU".
Yn ôl yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Mark Reckless, un o'r rhesymau fod yr UE eisiau cadw'r DU yn rhan o'r undeb tollau yw er mwyn cyfyngu gallu'r wlad i brynu bwyd rhatach o dramor.
Ychwanegodd Mr Jones: "Os mai'r hyn rydyn ni eisiau ei wneud yw mewnforio bwydydd rhatach o wledydd eraill heb gyfyngiadau, yna ni fydd ein ffermwyr ni'n gallu cystadlu â hynny.
"Dylwn ni feddwl yn ofalus iawn cyn agor y farchnad yn y fath modd y byddai'n cael effaith niweidiol ar ein hardaloedd gwledig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018