Angladdau mewn amlosgfeydd fel bod ar "felt cludo"

  • Cyhoeddwyd
Amlosgfa MargamFfynhonnell y llun, Bilbo/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae amlosgfa Margam ymhlith y rhai sydd wedi eu rhestri'n yr adroddiad sy'n cynnig gwasanaethau byrrach na hanner awr

Mae galarwyr yn teimlo bod gwasanaethau angladdol yn cael eu rhuthro mewn amlosgfeydd, yn ôl adroddiad.

Dangosodd ymchwil gan ddarparwyr angladdau Dignity bod rhai amlosgfeydd yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau byrrach na 30 munud o hyd.

Dywedodd pedwar allan o 10 eu bod yn teimlo bod eu profiad o drefnu angladd mewn amlosgfa fel bod ar "felt cludo".

Serch hynny, roedd amlosgfa Caerdydd ymhlith yr 20 amlosgfa sy'n perfformio orau yn y DU.

'Disgwyl i ni orffen'

Gofynnodd Dignity i 2,022 o bobl a drefnodd angladd mewn amlosgfa yn y DU yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Yn ôl un o dystiolaethau'r adroddiad: "Pan gyrhaeddom, roedd pobl yn dod allan o'r gwasanaeth o'n blaenau ni... ac ar y diwedd, roedd mwy yn disgwyl i ni orffen.

"O'dd e'n deimlad o 'Ewch mas o'r capel 'ma nawr'. Wedi'r gwasanaeth, roeddem yn sefyll ac yn siarad a doedd neb eisiau gadael...

"Roedden nhw'n ceisio ein tywys o 'na, y bobl sy'n gweithio yno. Cael ein gwared ni am eu bod am i fwy o bobl ddod i mewn."

45 munud yn 'angenrheidiol'

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Amlosgi Prydain, Harvey Thomas, bod angen cyflwyno lleiafswm o 45 munud i bob gwasanaeth yn "angenrheidiol", ac y dylai amlosgfeydd anelu at gynnig gwasanaeth awr o hyd.

Dywedodd y dylai trefnwyr angladdau geisio osgoi bod galarwyr sy'n gadael un gwasanaeth yn dod wyneb yn wyneb a galarwyr y gwasanaeth nesaf.

Yn ôl Westerleigh, sy'n rhedeg amlosgfeydd Aberystwyth, Llanelli a Langstone Vale, awr o hyd yw'r gwasanaeth angladdol arferol mewn amlosgfa.

"Mae hyn fel arfer yn rhoi 30 munud i wasanaeth, gyda 15 munud o flaen llaw ac wrth gwt y gwasanaeth."

"O ganlyniad, mae oddeutu 30 munud rhwng diwedd un gwasanaeth a dechrau'r nesaf, sy'n sicrhau nad yw teuluoedd yn teimlo eu bod ar felt cludo."

Ond, tan fod amlosgfeydd newydd yn cael eu hadeiladu, rhybuddia Mr Thomas "nad oes 'na ddim all gael ei wneud am hyn".

Dywedodd y byddai'n dymuno gweld "pump i 10" amlosgfa arall yng Nghymru, ond bod adeiladu amlosgfeydd yn gallu cymryd rhwng dwy neu 15 mlynedd, yn ddibynnol ar ganiatâd cynllunio.