Ffitrwydd Gareth Bale i gael ei asesu cyn herio Denmarc

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bale ei anafu yn ystod buddugoliaeth Real Madrid dros y penwythnos

Bydd ymosodwr Cymru a Real Madrid, Gareth Bale, yn cael ei asesu cyn wynebu Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd ddydd Gwener.

Mae Bale yn derbyn triniaeth ar ôl dioddef anaf i'w bigwrn ym muddugoliaeth Real yn erbyn Celta Vigo dros y penwythnos.

Nid oedd Bale yn rhan o sesiwn ymarfer Cymru ddydd Llun ond dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad oes unrhyw "broblemau difrifol".

Methodd yr ymosodwr y golled i Sbaen a'r fuddugoliaeth yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym mis Hydref oherwydd anaf.

Nid oedd James Chester, Chris Mepham, Neil Taylor, George Thomas na James Lawrence yn rhan o'r sesiwn ymarfer chwaith ddydd Llun.

Byddai buddugoliaeth yn erbyn Denmarc ddydd Gwener yn sicrhau dyrchafiad Cymru i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.