Cyhoeddi enw dynes fu farw wedi ymosodiad Llanbed
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth yn Llanbedr Pont Steffan yr wythnos diwethaf wedi cyhoeddi enw'r ddynes fu farw.
Roedd Katarzyna Elzbieta Paszek yn 39 oed.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol y Bont am tua 18:00 ar 8 Tachwedd, ble'r oedd Ms Paszek wedi dioddef anafiadau difrifol.
Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Dywedodd ei theulu mewn datganiad: "Rydym fel teulu wedi ein llorio o golli Katarzyna oedd yn 39 oed ac o ardal Llanbed.
"Roedd hi'n fam, merch, chwaer ac anti cariadus a gymaint yn ei charu.
"Rydym nawr am gael amser i alaru ac yn gofyn am breifatrwydd i wneud hynny."
Mae un dyn 40 oed o'r ardal yn parhau yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Cafodd tri dyn arall o ardal Llanbed hefyd eu harestio.
Mae un o'r rheiny - dyn 27 oed - wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.
Nid oes camau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y ddau arall - dyn 37 oed a dyn 31 oed.
Apêl
Ddydd Sul, cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys apêl yn yr iaith Bwyleg ar eu cyfrif Twitter, dolen allanol yn gofyn am wybodaeth.
Dywedodd DCI Anthony Evans: "Mae hyn nawr yn ymchwiliad i lofruddiaeth ac rwyf yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad, waeth pa mor ddibwys mae'n ymddangos, i gysylltu â ni.
"Hoffwn roi sicrwydd i'r cyhoedd nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad roi gwybod i'r heddlu trwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2018