Eluned Morgan yn annog hunan-gyflogaeth

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan, Vaughan Gething a Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Cynulliad Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eluned Morgan, Vaughan Gething neu Mark Drakeford yn olynu Carwyn Jones ym mis Rhagfyr

Fe allai pobl ddi-waith gael £1,000 i ddechrau eu busnes eu hunain petai Eluned Morgan yn dod yn brif weinidog.

Ei dymuniad yw creu "arwyr economaidd" ac y mae am i Gymru fod y lle gorau ym Mhrydain i bobl hunan-gyflogedig.

Mae Ms Morgan yn un o'r tri ymgeisydd yn y ras i olynu y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Mae'r papurau pleidleisio i fod i gael eu dychwelyd erbyn 3 Rhagfyr ac y mae disgwyl cyhoeddiad pwy fydd arweinydd Llafur a Phrif Weinidog nesaf Cymru dridiau yn ddiweddarach.

Ar hyn o bryd mae'r tri ymgeisydd yn cyflwyno eu negeseuon olaf wedi i Carwyn Jones gyhoeddi ym mis Ebrill ei fod yn camu o'i swydd.

Dywedodd Eluned Morgan: "Dwi wedi cyfarfod â nifer o bobl lle mae bod yn hunan-gyflogedig wedi newid eu bywyd ac mae'n rhaid i ni fuddsoddi mwy yn y math yma o arwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan AC am weld mwy o bobl hunan-gyflogedig

Yn ôl y gweinidog sydd â gofal dros yr iaith Gymraeg, gweithwyr hunan-gyflogedig sy'n cyflawni 14% o swyddi yng Nghymru a'i nod yw gweld y nifer yn codi.

Ychwanegodd: "Yn America amcangyfrifir y bydd 40% o'r gweithlu yn hunan-gyflogedig ymhen dwy flynedd neu lai.

"Dyma gyfle i ni greu economi ifanc, newydd llawn gobaith.

"Rwy' am i Gymru fod y lle gorau yn y DU i bobol hunan-gyflogedig."

Byddai cynllun Ms Morgan yn cynnig taliad o £1,000 i bobl o dan 25 oed wedi iddynt gyflwyno cynllun busnes derbyniol ar gyfer sefydlu eu cwmni eu hunain.