Claf, 92, wedi marw ar ôl methiant i drin clwyf mewn ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Evan JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr adroddiad bu farw Evan Jones wedi methiant y bwrdd iechyd i ofalu am ei glwyfau

Bu farw pensiynwr wedi i fwrdd iechyd fethu a darparu gofal angenrheidiol i'w glwyfau, yn ôl adroddiad ombwdsmon.

Roedd Evan Jones, 92 oed, wedi cael llawdriniaeth ar ei glun wedi iddo syrthio yn ei gartref, a cafodd ei ryddhau i Ysbyty'r Sir ger Pont-y-pŵl yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i wella.

Fe wnaeth ei fab gŵyn fod staff yr ysbyty cymunedol wedi methu ag adnabod a thrin haint a ddatblygodd wedi'r llawdriniaeth, a'u bod wedi methu a'i anfon yn ôl i'r ysbyty i gael triniaeth mewn da bryd.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi derbyn casgliadau'r ombwdsmon ac wedi cytuno i dalu iawndal.

Gadael clipiau'r llawdriniaeth

Yn ôl yr ombwdsmon, ni chafodd y rhwymiad cywir ei ddefnyddio yn ystod cyfnod Mr Jones yn yr ysbyty cymunedol.

Yn ogystal, cynghorwyd y staff dros alwad ffôn i gasglu crawn y clwyf mewn bag stoma yn hytrach na defnyddio'r rhwymiad addas.

Ar ben hynny, roedd clipiau ar ei glwyf wedi cael eu gadael yno yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty - rhywbeth a fyddai'n debygol o fod wedi gwaethygu ei haint.

Ni fu adolygiad pellach o Mr Jones na'i glwyf ers yr asesiad cyntaf, wedi iddo gael ei dderbyn i'r ysbyty cymuned, er gwaetha'r ffaith fod haint yn amlwg ar y claf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mab Mr Jones, Brian, ei bod yn amlwg bod clwyf ei dad "wedi'i heintio'n ddifrifol"

Yn ôl adroddiad yr ombwdsmon, fe ddylai'r staff fod wedi cael cyngor staff meddygol uwch cyn gynted â phosib, ac roedd methiant i wneud hynny wedi arwain at oedi wrth drin y claf.

Nododd yr ombwdsman i'r bwrdd iechyd fethu a sôn wrth Wasanaeth Ambiwlans Cymru am gyflwr Mr Jones, er mwyn i'r drafnidiaeth fwyaf addas gael ei ddefnyddio i'w gludo i'r ysbyty.

'Anghyfiawnder torcalonnus'

Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett ei fod yn "bryder mawr nad oedd y doctor a'r nyrs oedd yn ei drin yn ymwybodol o'r ymarfer gorau, er gwaetha'r ffaith fod mab y claf a staff wedi mynegi pryderon".

"Pe byddai haint Evans Jones wedi cael ei drin yn llwyddiannus, mae'n bosib na fyddai wedi datblygu'r niwmonia a arweiniodd at ei farwolaeth," meddai.

"Mae hyn yn anghyfiawnder torcalonnus i deulu'r claf."

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cytuno gyda nifer o argymhellion yn sgil yr adroddiad, gan gynnwys ymddiheuriad a thalu £2,000 i deulu'r claf.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Rydym yn ymddiheuro yn ddiamod am y methiannau sy'n cael eu nodi yn adroddiad Ombwdsmon Cymru ac mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Mr Jones.

"Ers i'r achos ddod i'n sylw rydym wedi gwneud y gwelliannau angenrheidiol i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto," meddai'r llefarydd.