'Cyfle gwirioneddol i Gymru' gyrraedd Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Owain Fôn WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Owain Fôn Williams yn rhan o garfan Cymru yn Euro 2016

Mae aelod o garfan Cymru yn Euro 2016 yn Ffrainc wedi dweud fod gan Ryan Giggs 'gyfle gwirioneddol' i arwain ei wlad i rowndiau terfynol Euro 2020.

Yn ôl y golwr Owain Fôn Williams, mae'n bwysig i Gymru gael dechreuad da yn y grŵp i "osgoi rhoi eu hunain dan bwysau yn gynnar yn yr ymgyrch."

Daeth yr enwau allan o'r het fore Sul mewn seremoni yn Nulyn ac mae Cymru wedi'u gosod yn Grŵp E.

Bydd gemau yn erbyn Croatia, Slofacia, Hwngari ac Azerbaijan yn eu hwynebu rhwng Mawrth a Thachwedd 2019, gyda'r gemau ail gyfle wedyn ym Mawrth 2020.

'Llefydd anodd i fynd'

Dywedodd Owain Fôn Williams wrth BBC Cymru Fyw: "Mae Cymru wedi dod yn bell dros y bedair blynedd diwethaf ac mae ganddyn nhw gystal cyfle a neb i ddod allan o'r grŵp.

"Yn amlwg mae Croatia am fod yn galed. Dani'n gwybod am Slofacia ers i ni chwarae yn eu herbyn nhw yn Bordeaux ac felly dani'n gwybod ein bod yn gallu eu curo.

"Yr unig beth am y gwledydd yw eu bod nhw i gyd yn llefydd anodd iawn i fynd iddyn nhw.

"O ran Croatia a Slofacia, Mae'n gallu bod reit 'hostile' yno ac mae cyrraedd Azerbaijan yn her gan ei fod o mor bell," meddai.

Gary PritchardFfynhonnell y llun, Gary Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Y tro cyntaf i Gary Pritchard fod yn Azerbaijan oedd i wylio Cymru yn chwarae yn Baku yn 2002

Bydd y timau syn gorffen yn y ddau safle uchaf yn y deg grŵp yn llwyddo i sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth sy'n cael ei chynnal mewn 12 gwlad wahanol.

Un oedd yn edrych ymlaen at weld yr enwau yn dod allan o'r het oedd Gary Pritchard, sydd wedi bod yn dilyn tîm Cymru dramor ers blynyddoedd.

"Os na neith Cymru lwyddo i ddod allan o'r grŵp yma yna fydda nhw ddim yn haeddu bod yn Euro 2020, "meddai.

"O ran y pêl-droed mae'n sicr yn grŵp allwn ni ddod allan ohoni, mi fysa ni wedi gallu wynebu prif ddetholion llawer cryfach na Croatia.

"Hefyd, roedd hi'n bwysig osgoi rhai o'r timoedd cryf sydd yn y potiau isaf fel Kosovo a Romania."

'Momentwm'

Ond wrth edrych ar y tripiau fydd yn wynebu'r cefnogwyr, roedd Mr Pritchard yn eithaf siomedig gan ei fod eisoes wedi ymweld â'r holl wledydd sydd yng ngrŵp E.

"Roeddwn i'n gobeithio am Estonia, Groeg neu Ynysoedd y Faroes, dwi wedi bod yn y gwledydd yma i gyd o'r blaen, ond dwi dal i edrych ymlaen, meddai."

Wrth edrych ymlaen at ddechrau ymgyrch ragbrofol newydd, "mae angen cael dechreuad da er mwyn adeiladu momentwm", meddai Owain Fôn Williams.

"Dwi'n cofio ymgyrch Euro 2016 a'r pwysau oedd arnom ni i ennill oddi-cartref yn Andorra.

"Roedd y gwaith paratoi wedi'i wneud ac mi fase colli wedi bod yn ergyd i'r ymgyrch gyfan, mae hi mor bwysig i ennill eich gemau cartref a'r gemau cynnar hefyd," meddai.

Tommie Collins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tommie Collins yn edrych ymlaen at gael mynd i Bwdapest ac i Bratislava

Un arall fydd sy'n edrych ymlaen at yr ymgyrch ragbrofol yw Tommie Collins o Borthmadog.

"Dwi'n gobeithio chwarae'r timau gwanaf yn gyntaf, mi fysa Giggs dan bwysau mawr fel rheolwr os nad yw'r canlyniadau cynnar yn mynd ffordd Cymru," meddai.

"Er fy mod wedi bod yn y gwledydd yma i gyd, dwi'n edrych ymlaen cael ymweld â stadiymau newydd yn Budapest ac yn Bratislava.

"Rŵan mae'r gwaith caled yn dechrau, dwi'n edrych ymlaen at dripiau grêt i ddinasoedd grêt," meddai Mr Collins.

'Profiad yn bwysig'

Wrth edrych ymlaen at yr ymgyrch dywedodd Owain Fôn Williams fod profiad chwaraewyr profiadol Cymru am fod yn hanfodol i'w llwyddant.

"Mae'r gwledydd yn nwyrain Ewrop wastad yn gwybod sut i reoli gemau, mae hi am fod yn anodd i'r hogia ifanc sydd yn torri drwodd.

"Mae profiad chwaraewyr fel Ashley Williams, Joe Allen, Gareth Bale ac Aaron Ramsey am fod yn hynod bwysig yn y gemau yma.

"Mae rhaid i Gymru drin pob gêm fel ffeinal, a dwi'n siŵr byddwn yn dathlu erbyn y diwedd efo Cymru yn mynd drwodd," meddai.

Bydd rhestr o gemau Cymru yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach.