Cynghorwyr yn ystyried 'blaenoriaethu gofal i bobl leol'

  • Cyhoeddwyd
gofal henoed

Mae cynghorwyr Llafur yng Nghonwy wedi awgrymu y dylid blaenoriaethu pobl leol yn hytrach na'r rheiny sy'n ymddeol i'r sir pan mae'n dod at ddarparu gofal.

Dywedodd cyn-ddirprwy arweinydd y cyngor, Ronnie Hughes nad oedd y sefyllfa bresennol yn "gynaliadwy" wrth drafod y pwysau ariannol ar y gyllideb gofal cymdeithasol.

Ychwanegodd Chris Hughes, cyn-aelod cabinet ar y cyngor, y byddai'r broblem yn gwaethygu os oedd Conwy yn parhau i fod yn "ardal ymddeol".

Clywodd y pwyllgor craffu ariannol fod gwasanaethau cymdeithasol Conwy yn wynebu gorwariant o £3m, a hynny ar ben cyllideb o £60m.

'Isadeiledd annigonol'

Fe wnaeth adroddiad i'r pwyllgor ddydd Llun glywed fod gwariant ar ofal cymdeithasol wedi cynyddu o £500,000 ers yr adroddiad diwethaf ym mis Hydref, yn bennaf ar wasanaethau i bobl hŷn.

Mae tasglu bellach wedi cael ei ffurfio er mwyn edrych ar y pwysau ar wasanaethau gofal yn y sir.

"Mae'n rhaid i bethau newid. Allwn ni ddim cynnal hyn," meddai Ronnie Hughes.

Ychwanegodd: "Mae angen syniadau newydd arnom. Dylen ni edrych ar ba mor hir mae pobl wedi byw yma a thalu treth cyngor.

"Dim ond un o'r syniadau dwi'n ei awgrymu ydy hwn, ond ar ddiwedd y dydd mae'n rhaid i aelodau feddwl am y dyfodol."

Ychwanegodd Chris Hughes, cyn-aelod cabinet dros ofal cymdeithasol: "Mae gyda chi ddatblygwyr sydd fel petaen nhw ond yn adeiladu tai i bobl hŷn ac mae pobl yn symud i'r ardal.

"Rydyn ni'n gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl hŷn yn dod i ardal sydd ddim efo'r isadeiledd i gynnal hynny.

"Os ydyn ni'n parhau i ganolbwyntio ar Gonwy fel ardal ymddeol byddwn ni'n parhau i gael mwy a mwy o broblemau."