Apêl plant i bobl sy'n parcio ger Ysgol Llanllyfni

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Llanllyfni
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd prifathro Ysgol Llanllyfni fod parcio anghyfreithlon wedi mynd yn broblem gynyddol yn y pentref

Mae disgyblion ysgol yng Ngwynedd yn gofyn i yrwyr i beidio â pharcio'n anghyfreithlon yn ymyl eu hysgol.

Mae plant Ysgol Llanllyfni wedi cynllunio arwyddion ac yn dosbarthu llythyrau i dai cyfagos yn atgoffa gyrwyr o'r risgiau os ydyn nhw'n parcio'u ceir yn groes i'r rheolau.

Dywedodd pennaeth yr ysgol, Geraint Jones, fod disgyblion yn cael eu hannog i gerdded i'r ysgol er lles eu hiechyd a'r amgylchedd.

Ond ychwanegodd fod parcio anghyfrifol yn gwneud hynny'n anodd ac yn beryglus i'r plant gan nad ydyn nhw'n gallu gweld y traffig yn glir.

'Rhy fyr i yrwyr eu gweld'

"Wrth iddyn nhw gyrraedd y ffordd sy'n arwain at yr ysgol mae'n gallu bod yn beryglus iddyn nhw groesi oherwydd bod ceir wedi parcio lle na ddylen nhw," meddai Mr Jones.

"Mae hyn yn arbennig o beryglus i blant bach gan eu bod yn rhy fyr i yrwyr eu gweld nhw os ydyn nhw'n gorfod croesi rhwng dau gar sydd wedi parcio, ond hefyd dyw'r plant eu hunain efallai ddim yn gallu gweld y traffig yn glir."

Ychwanegodd, ers i'r gwasanaeth lolipop ddod i ben tu allan i'r ysgol tua phum mlynedd yn ôl, mae parcio anghyfreithlon "wedi mynd yn broblem gynyddol yn y pentref yn gyffredinol".

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o ddisgyblion Ysgol Llanllyfni gyda'u posteri diogelwch

Rheolwr gorfodaeth parcio Cyngor Gwynedd ydy Gwenan Huws Tomos, a dywedodd: "Mae unrhyw un sydd yn parcio ar y llinellau melyn yn torri'r gyfraith.

"Yn anffodus nid yw ein wardeniaid traffig yn medru bod ymhob man ar unwaith, felly rydym yn apelio ar synnwyr cyffredin pobl ac yn gofyn iddyn nhw fod yn fwy ymwybodol o ble y maen nhw'n parcio a'r effaith y gall hynny ei gael ar ddefnyddwyr eraill y ffordd fawr."