Marwolaeth Llanbedrog: Rheithgor wedi eu rhyddhau

  • Cyhoeddwyd
Peter ColwellFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Peter Colwell yn 18 oed ac yn heliwr brwd

Mae'r rheithgor wedi cael eu rhyddhau mewn achos dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth llanc 18 oed mewn maes parcio tafarn yng Ngwynedd.

Cafodd Peter Colwell ei saethu tra'n eistedd yn sedd gefn cerbyd 4x4 mewn maes parcio tafarn ger Pwllheli.

Roedd Ben Fitzsimons, 23, a Ben Wilson, 29, yn gwadu cyhuddiadau o ddynladdiad drwy esgeulustod drwy gydol yr achos yn Llys y Goron Caernarfon.

Ar ôl 23 awr ac 20 munud o drafod, cafodd y rheithgor eu rhyddhau.

Fe wnaeth y barnwr gadarnhau y bydd achos arall yn cael ei gynnal ym mis Mehefin 2019.

Fe gafwyd Ben Fitzimons yn euog o fod â gwn wedi'i lwytho yn ei feddiant mewn man cyhoeddus ddydd Mawrth, cyhuddiad yr oedd Wilson eisoes wedi ei dderbyn.

Cafwyd dau ddyn arall - Michael Fitzsimons, 25, a Harry Butler, 23 - yn ddieuog o'r cyhuddiad.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Peter Colwell ei saethu ym maes parcio Tafarn y Llong

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod y grŵp o bump wedi bod yn yfed yn drwm cyn y digwyddiad ym maes parcio tafarn y Llong yn Llanbedrog ar 5 Chwefror y llynedd.

Yn ôl yr erlyniad roedd y gwn wedi cael ei gadw yn sedd flaen y Land Rover Discovery, yn pwyntio tuag at y sedd gefn.

Ben Fitzsimons oedd yr unig berson yn y sedd flaen pan gafodd y gwn ei danio, a dywedodd nad oedd yn gallu dweud ai ef oedd yn gyfrifol ai peidio.

Mr Wilson oedd perchennog y cerbyd a'r gwn, ond nid oedd yn y cerbyd pan gafodd Mr Colwell ei saethu.

Fe wnaeth yr erlyniad gydnabod bod "dim byd bwriadol na maleisus" am y farwolaeth, ond mynnu hefyd nad oedd y gwn wedi ei gario a'i gadw mewn modd diogel.