'Dylai newyddion am Gymru fod yn amod trwyddedau radio'

  • Cyhoeddwyd
Stiwdio radio

Dylai newyddion am Gymru fod yn un o'r prif amodau wrth ddyfarnu trwyddedau radio masnachol lleol, yn ôl Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r pwyllgor am i Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) llywodraeth y DU gyflwyno rheoliadau i sicrhau bod gorsafoedd masnachol lleol sy'n darlledu yng Nghymru yn cynnwys newyddion neilltuol i Gymru ochr yn ochr â chynnwys lleol a chynnwys am y DU.

Ar hyn o bryd mae'r DCMS wrthi'n ystyried cynigion i ddadreoleiddio diwydiant radio masnachol y DU, gan ei gwneud yn haws i orsafoedd newid fformatau, y gerddoriaeth a'r safleoedd y darlledir ohonynt.

'Gorsafoedd y BBC yn boblogaidd'

Mae bron i hanner holl wrandawyr radio yng Nghymru yn gwrando ar orsafoedd rhwydwaith y BBC ac mae'r pwyllgor yn galw ar i'r BBC ymchwilio i opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth optio allan i Gymru.

Mae'r pwyllgor yn nodi bod radio cymunedol yn adnodd gwerthfawr i gymunedau lleol ledled y wlad ac maent am i Lywodraeth Cymru ystyried ailagor ei chronfa Radio Cymunedol.

Mae hefyd am i gyrff cyhoeddus wario mwy o'u refeniw marchnata a hysbysebu i gefnogi gorsafoedd radio cymunedol.

Dywedodd Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: "Rydym o'r farn y dylai gorsafoedd radio sy'n darlledu yng Nghymru fod â gogwydd Cymreig.

"Maent yn dal i fod yn bwysig o ran sut mae pobl yn dysgu am yr hyn sy'n digwydd yn y byd neu yn eu milltir sgwâr, ond yr ydym am weld rheoliadau newydd yn cael eu cyflwyno i helpu pobl i ddeall yn well yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru a sut mae'n effeithio ar eu bywydau.

"Mae gan y BBC y gyfran fwyaf o'r farchnad trwy ei orsafoedd rhwydwaith. Hoffem weld ymchwilio pellach i sut y gellir darparu gwasanaeth optio allan i Gymru a beth sydd angen ei wneud i oresgyn y rhwystrau i hynny.

"Mae gan orsafoedd radio cymunedol rôl werthfawr i'w chwarae i bob math o bobl ledled y wlad. Mae cefnogi'r gorsafoedd hyn yn allweddol i sicrhau bod cynnwys amrywiol a pherthnasol ar gael i gymunedau lleol, a dyna pam ein bod o'r farn y gallai cyrff cyhoeddus ddefnyddio'u gwariant marchnata a hysbysebu yn fwy eang."

'Y radio yn llwyfan'

Mae'r pwyllgor wedi gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad.

Yn ogystal â rhoi pwyslais ar newyddion Cymreig mae'r pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud defnydd helaethach o orsafoedd Radio Cymunedol ar gyfer ymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus.

Mae'r pwyllgor yn dweud y dylid hefyd "ddarparu canllawiau i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i'w hannog i ddefnyddio a gweithio gyda gorsafoedd radio cymunedol fel llwyfan cyfathrebiadau ac ymgysylltu".