Bwrw mlaen â chynlluniau i gau tair ysgol yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Ceredigion yn bwriadu bwrw 'mlaen â chynlluniau i gau tair ysgol gynradd yn y sir.
Mae hysbysiadau statudol yn cael eu cyhoeddi i gau tair ysgol, gyda'r cyfle i bobl wrthwynebu'r cynigion o fewn 28 diwrnod.
Yn dilyn y cyfnod hwnnw bydd Cyngor Ceredigion yn gwneud y penderfyniad terfynol i barhau â'r broses i gau'r ysgolion neu beidio.
Yn ôl aelod o gyngor Beulah, mae'n "sefyllfa drist iawn i'r ardal", ond dywed y cynghorydd â chyfrifoldeb dros wasanaethau dysgu bod "angen i ni sicrhau bod ein system addysg yn gynaliadwy".
Ystyriodd cabinet y cyngor gyflwyniad ar arian gyllidebau ysgolion, niferoedd disgyblion a mewnbwn aelodau lleol cyn penderfynu, cyn cytuno i gyhoeddi'r hysbysiadau mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Cyfle i wrthwynebu
Yn ôl yr aelod cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles: "Nid hyn yw'r penderfyniad olaf ar y cynigion i gau'r ysgolion yng Nghilcennin, Beulah a Threwen.
"Mae'r hysbysiad yn rhoi'r cyfle i bobl wrthwynebu'r cynigion os ydynt yn dewis gwneud hynny."
"Mae angen i ni sicrhau bod ein system addysg yn gynaliadwy ac yn edrych i'r dyfodol.
"Mae'r cynigion i gau'r ysgolion yn seiliedig ar leihad mewn niferoedd disgyblion a chost fesul disgybl sydd yn llawer uwch na'r cyfartaledd dros y sir."
O fis Medi 'mlaen, mae disgwyl i ddisgyblion Ysgol Beulah ac Ysgol Trewen, ger Castell Newydd Emlyn, fynychu ysgol yng Nghenarth.
'Diwrnod hynod drist'
Dywedodd Lyndon Lloyd, aelod o gyngor Beulah, ei bod hi'n "ddiwrnod hynod o drist" ac yn "sefyllfa drist iawn i'r ardal".
Bydd Ysgol Gymuned Cilcennin, ger Aberaeron, hefyd yn cau er gwaetha' galwadau niferus i oedi'r penderfyniad tan fod ymgynghoriad ar ddyfodol addysg yn yr ardal wedi dod i ben.
Mae gan ysgolion Beulah a Threwen gyfanswm o 18 disgybl rhyngddynt, tra bod 13 disgybl yng Nghilcennin.
Mae'r gost ar gyfer pob disgybl ym Meulah a Threwen yn uwch na £7000, £3000 yn uwch na chyfartaledd y sir.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Addysg, Meinir Ebbsworth wrth y cyngor dydd Mawrth, bod disgwyl i'r niferoedd yno haneru erbyn 2023.
Mae rhieni Ysgol Beulah wedi cyflwyno gwaith ymchwil yn cefnogi dyfodol ysgolion bach, ac mae Mr Lloyd wedi gofyn i'r cabinet barchu eu safbwynt.
Wrth ymateb, dywedodd arweinydd y cyngor, Ellen ap Gwynn: "Rydyn ni yn gwrando ond mae hi'n amhosib i ni wneud yr hyn maen nhw eisiau i ni ei wneud oherwydd y sefyllfa ariannol."
Bydd gorchmynion cau statudol yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn nesaf, a bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried ym mis Mawrth.
Mae disgwyl i'r penderfyniad terfynol ynglŷn â dyfodol yr ysgolion gael ei wneud gan y cyngor ym mis Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018