Cwmni Amazon yn 'trin gweithwyr fel robotiaid'

  • Cyhoeddwyd
Warws Amazon yn Abertawe

Mae cyn-weithiwr gyda chwmni Amazon yn Abertawe wedi dweud wrth BBC Cymru bod y cwmni yn trin eu gweithwyr fel robotiaid.

Dywedodd wrth Newyddion 9 bod pobl yn cael eu diswyddo yn wythnosol am fethu â chyrraedd "targedau afrealistig" oedd yn cael eu gosod gan y cwmni.

Daw hyn wrth i undeb y GMB alw am gyfarfod brys i drafod diogelwch ac amodau gwaith yn y warws.

Mae Amazon yn gwadu pob un o'r cyhuddiadau gan ddweud bod eu gweithwyr yn hapus, ac yn cael eu talu'n dda.

'Bregus'

Yn ôl y cyn-weithiwr, sy'n dymuno aros yn ddienw, roedd gweld pobl yn cael eu diswyddo yn gyffredin iawn.

"O fewn yr wythnos gyntaf, o'ch chi'n gallu gweld pobl yn cael eu saco bron yn instantly, a chi'n ymwybodol pa mor fregus oedd eich swydd," meddai.

"Os oeddech chi ddim yn cadw lan eich productivity, o'ch chi'n gallu ca'l 'i gadael fynd yn syth."

Disgrifiad o’r llun,

Doedd y cyn weithiwr ddim am i'r BBC ddatgelu ei enw na dangos ei wyneb

Dywedodd ei fod yn cydnabod bod targedau yn rhan o bob swydd a bod ganddo ddim cwyn am y cyflog, ond roedd ganddo bryderon am yr amodau gweithio.

Mae'n honni bod yna ddiffyg "hawliau dynol syml, fel mynd i'r tŷ bach pan 'dwi isie, ca'l amser cinio, neu ca'l egwyl... fi'n gallu ymlacio a wedyn mynd yn ôl i waith".

"Ond yn Amazon, ma' popeth yn ca'l 'i mesur... maximum pum munud i fynd i'r tŷ bach, a os ydych chi'n fwy na hynna fydd line manager chi'n dod i chwilio amdanoch chi.

"Fi methu cwyno am y tâl ond ma' nhw jest ddim yn trin chi fel pobl - ma' nhw'n trin chi fel robots."

Yn ôl y GMB, mae 84 o ddigwyddiadau iechyd a diogelwch difrifol wedi cael eu cofnodi yn y warws yn Abertawe.

Dywedodd Jeff Beck o'r undeb: "Rwy'n meddwl bod y ffigyrau yn dweud y cyfan. Mae pobl dan gymaint o bwysau yno... maen nhw wedi'u troi'n robotiaid, a dyna pryd mae'r damweiniau'n digwydd."

Tâl ac amodau 'ffantastig'

Mewn ymateb fe ddywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediad Rhanbarthol y cwmni, Nic Fyfe ei bod yn "croesawu unrhyw graffu".

"Mae'n rhan bwysig o'r hyn rydyn ni'n ei wneud, ond sa i'n nabod y straeon rwy'n eu gweld yn y wasg," meddai.

Dywedodd ei fod yn "nabod llawer o'r gweithwyr yn bersonol" ac yn siarad â nhw'n gyson wrth gerdded o gwmpas y warws.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nic Fyfe ei bod yn "croesawu unrhyw graffu" ar safonau gweithio'r warws

"Petai nhw ag unrhyw bryderon nhw fydde'r bobl gyntaf i ddweud wrtha'i," meddai.

"Rydyn ni'n cynnig pecyn gwych. Eleni, fe wnaeth e godi i £9.50 yr awr - £10.50 yn ardal Llundain - ac mae yna becyn buddion ffantastig.

"Mae pawb yn cael hanner awr i gael cinio. Rydyn ni'n sicrhau bod pobl yn cael amser ychwanegol i fynd i ac o'r ffreutur. Ar ben hynny mae pobl yn cael chwarter awr o hoe ddwywaith [y dydd]."

'Cyfleoedd a mwynhad'

Mae Malcolm Rees yn dweud ei fod wedi mwynhau gweithio yn y ganolfan yn Abertawe ers dechrau yno saith mlynedd yn ôl.

"Dyw pobl ddim yn gweld yr Amazon go iawn, mae gyda nhw bersbectif o'r hyn maen nhw wedi ei glywed a straeon gwael, ond pan rydych hi'n dod yma, mae yna gyfleoedd a mwynhad.

"Mae yna ddigon o gyfleoedd i bobl ifancach symud ymlaen i fod yn rheolwyr ardal. Edrychwch o gwmpas ac fe welwch chi ddigon o reolwyr ardal ifanc."

Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr ar lawr y warws sy'n cael ei alw'n Ganolfan Gwireddu gan y cwmni

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Rydym yn ymfalchïo yn ein hadeiladau fel mannau diogel i weithio."

Ychwanegodd fod ystadegau iechyd a diogelwch Llywodraeth y DU yn dangos bod "Amazon â 43% yn llai o anafiadau ar gyfartaledd na chwmnïau cludo a storio eraill".