Teuluoedd methu bod adref am y Nadolig wedi'r llifogydd
- Cyhoeddwyd
Pan or-lifodd Afon Teifi tra roedd Storm Callum yn ei hanterth fis Hydref, bu'n rhaid i ddegau o deuloedd adael eu cartrefi.
Ddeufis yn ddiweddarach, mae pedwar o deuloedd yn dal i aros i ddychwelyd i'w cartrefi.
Yn eu plith mae Ieuan a Mary Williams o Landysul, a fydd yn treulio cyfnod y Nadolig mewn carafán drws nesaf i'w cartref.
Achosodd y llifogydd ddifrod sylweddol i'w tŷ wedi i lefel y dŵr gyrraedd yr wythfed ris ar eu grisiau.
"Ni wedi bod 'ma dau fis nawr a 'dwi'n credu byddwn ni yma am ddeufis arall yn y garafán," meddai Mr Williams.
Dywedodd Mrs Williams: "Ni'n lwcus fod carafán 'da ni. Ni'n agos at y tŷ, ni'n gallu mynd lan i'r lofftydd, mae'r llofftydd yn iawn.
"Ni'n mynd 'nôl a mlaen i 'nôl dillad a phethau fel 'na. Ond so ni'n cysgu yn y tŷ, ni'n cysgu yn y garafán, a diolch fod un i gael.
"Ni'n dau yn saff, 'na gyd oedd yn bwysig ar y pryd. Ond fyddai ddim yn cadw dim byd sentimental rhagor.
"Mae'r cwbl wedi mynd, pethau ar ôl fy mam, pethau fi.... 'y chi'n gweld eisiau rhywbeth pob dydd bron â bod."
Ysbryd yr ŵyl
Yn ôl y cynghorydd lleol, Linda Evans, mae busnesau'n dal i ddioddef ac mae pobl yn dal i ddioddef.
"I rai mae'n mynd i gymryd hyd at ddeufis arall cyn y medran nhw ddychwelyd i'w cartrefi," meddai.
"Ond ges i e-bost gan gwpl ifanc echdoe yn dweud eu bod nhw 'nôl yn y tŷ, ac mae hynny'n hyfryd i'w glywed."
A hithau'n dymor ewyllys da, mae'r gymuned yn ardal Llandysul wedi cofleidio gwir ysbryd y Nadolig.
Fe drefnodd Meinir Davies o Apêl Cymorth Llifogydd Pont Tyweli a Llandysul ddau gyngerdd ac fe godwyd £4,000.
"Mae hynny'n ffantastig i'r gymuned," meddai.
"Mae pobl wedi tynnu at ei gilydd a phobl ni ddim yn nabod yn dod atom ni i helpu. Mae 'di bod yn wych."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2018