Straen arbennig staff y gwasanaeth brys

  • Cyhoeddwyd
Will Moore
Disgrifiad o’r llun,

Mae Will Moore, sy'n barameddyg yng Nghaerdydd, yn cyfaddef bod nifer o heriau o fewn ei swydd

Mae staff y gwasanaethau brys yn wynebu heriau a thrawma yn ddyddiol - ac yn teimlo'r straen.

Staff ambiwlans sydd â'r nifer uchaf o staff ar draws GIG Cymru yn sâl, ac roedd y niferoedd rhwng Ebrill a Mehefin ar ei uchaf ers pedair mlynedd.

Mae'r nifer o swyddogion yr heddlu yng Nghymru sydd bant o'r gwaith oherwydd straen wedi dyblu dros y pedair mlynedd ddiwethaf.

Mae tua 90% o weithwyr y gwasanaethau brys wedi profi straen a 25% wedi ystyried hunanladdiad, yn ôl ffigyrau diweddar gan Mind Cymru.

Rhannodd parafeddyg a ditectif eu straeon nhw o ddelio gyda'r profiadau trawmatig sy'n dod law yn llaw gyda'u swyddi heriol.

Disgrifiad o’r llun,

Er gwaetha'r heriau, dywedodd Will Moore fod ei swydd yn rhoi boddhad iddo

Hyfforddodd Will Moore, 32 oed yn Llundain, cyn ymgartrefu yng Nghaerdydd gyda'i wraig Jess a'i ferch Dolly.

Dywedodd bod gweithio gyda chleifion sy'n blant ymysg un o heriau mwyaf ei swydd, yn enwedig ers iddo ddod yn dad ei hun.

"Nawr fy mod i gyda phlant yn aml, dwi'n gallu uniaethu gydag e ac yn deall sut mae rhieni'n teimlo os ydy'u plant nhw'n sâl iawn, ac yn enwedig os yw'n farwolaeth plentyn."

"Chi yn mynd ag e gartref, chi'n poeni am eich plentyn eich hun wedyn. Torrodd fy merch ei braich yn ddiweddar, ar ôl cwympo oddi ar y soffa, ac roeddwn yn hynod ypset."

Galwadau heriol eraill i Mr Moore yw mynd i leoliad lle mae'r claf eisoes wedi marw.

"Dwi'n ei weld yn anodd cysuro teulu weithiau, yn enwedig os nad oeddent yn gwybod am gyflwr iechyd y claf."

Er gwaetha'r heriau, dywedodd Mr Moore fod ei swydd yn rhoi boddhad iddo.

"Rydym wedi ein hyfforddi i ddelio gyda geni plant, ac mae'n hyfryd gallu dod a bywyd newydd i'r byd a rhoi gwen ar wynebau rhieni."

Ffynhonnell y llun, Dyfed Powys Police
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu, fel y gwasanaethau brys eraill, yn dibynnu ar ei gilydd am gefnogaeth, yn ôl y Ditectif Sarjant Merrix

Mae'r Ditectif Sarjant Steve Merrix wedi ymchwilio i achosion o gam-drim plant ers 11 mlynedd, ac yn goruchwylio 14 achos cymhleth i Heddlu Dyfed-Powys.

Mae'r ditectif o Ddoc Penfro, ac yn dad i dri o blant sy'n oedolion, ond datgelodd iddo ei chael yn anodd gwahanu ei waith a'i fywyd personol yn ystod un achos yn y 90au.

"Fe wnaeth effeithio arna' i. Roedd gen i deulu ifanc gyda phlant yr un oedran â'r dioddefwyr. Effeithiodd ar y ffordd roeddwn yn ymddwyn gyda'r plant."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n brofiad "erchyll" clywed tystiolaeth plant sy'n cael eu cam-drin, yn ôl Ditectif Sarjant Merrix

Dywedodd Ditectif Sarjant Merrix bod delweddau "erchyll a thrawmatig" o gam-drin plant yn cael eu hymchwilio gan yr uned seiberdrosedd

"Y trawma i ni yw cyfweld a'r dioddefwyr a mynd drwy eu hatgofion nhw, sy'n gallu bod yn erchyll," meddai.

"Ac yna mynd a delio gyda'r diffynnydd ac aros yn broffesiynol, sy'n gallu bod yn anodd i rai."

Gofynnwyd iddo a oedd ei bersbectif ar bobl wedi newid, a dywedodd nad oedd ganddo'r un ffydd mewn pobl â'i wraig.