Argymhelliad i godi cannoedd o gartrefi yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe allai cymuned newydd yn cynnwys cartrefi ar gyfer bron i 5,000 o bobl gael eu codi ar gaeau yn Abertawe.
Mae swyddogion Cyngor Abertawe yn argymell i aelodau'r pwyllgor cynllunio gymeradwyo cais cynllunio amlinellol gan gwmni Llanmoor Development Co. Ltd. i ddatblygu tir oddi ar Ffordd Llangyfelach yn Nhirdeunaw.
Fe fyddai'r datblygiad yn cynnwys hyd at 1,950 o dai a fflatiau, ysgol gynradd, tafarndy, meysydd chwaraeon a pharciau.
Ond yn ôl Cyngor Cymuned Llangyfelach fe fyddai creu dau gyffordd newydd i wasanaethu'r datblygiad yn achosi "anhrefn" traffig.
Bydd cynghorwyr yn trafod y cynlluniau ar 8 Ionawr.
Mae yna fwriad i godi ffordd trwy'r datblygiad gyda chyffordd ar y ddau ben yn cysylltu â Ffordd Abertawe a Ffordd Penplas.
Effaith bosib
Dywedodd y cynghorydd sir sy'n cynrychioli Llangyfelach, y Cyng Gareth Sullivan bod "tagfeydd sylweddol eisoes yn yr oriau brig" ac y gallai mwy o draffig arwain pobl i osgoi'r ardal.
Ychwanegodd ei fod yn poeni am effaith bosib y cynlluniau gan fod yna ddatblygiadau tai eraill yn yr ardal. Mae hefyd yn dadlau y dylid codi mynedfa o gyfeiriad y gogledd - o ffordd yr A48.
Fe fyddai tua 290 o'r cartrefi yn rhai fforddiadwy, ac mae'r datblygwyr yn dweud mai dim ond ar o gwmpas hanner y safle 115 hectar y mae bwriad i godi adeiladau, gyda'r gweddill yn parhau yn dir agored.
Mae adroddiad i'r pwyllgor yn dweud bod yna brinder tir ar gyfer codi tai yn y sir, bod y safle dan sylw wedi ei glustnodi ar gyfer cartrefi newydd, ac y byddai'n darparu cartrefi ar gyfer hyd at 4,680 o bobl.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai effaith y datblygiad ar gyffordd 46 o'r M4 yn "isafol".
Mae'r safle ymhlith chwech ardal strategol sydd wedi eu clustnodi ar gyfer eu datblygu fel rhan o Cynllun Datblygu Lleol y cyngor sir.
Mae'r cynllun hwnnw yn agos at gael ei gwblhau, a dyma'r safle mwyaf o'r chwech.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd25 Medi 2017