Llanelli yn arwyddo cyn-gapten Abertawe, Leon Britton

  • Cyhoeddwyd
Leon BrittonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Leon Britton chwarae dros 500 o gemau i Abertawe

Mae cyn-gapten Clwb Pêl-droed Abertawe, Leon Britton, wedi ymuno â Llanelli yn Uwch Gynghrair Cymru.

Fe wnaeth Britton, 36, ymddeol o bêl-droed proffesiynol yn dilyn cwymp Abertawe o Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwedd tymor 2017/18.

Mae Llanelli, sydd ar hyn o bryd un safle o waelod tabl Uwch Gynghrair Cymru, yn edrych i gryfhau eu carfan ar gyfer ail hanner y tymor.

Fe wnaeth Britton chwarae dros 500 o gemau i Abertawe, ac mae'n gweithio fel llysgennad i'r clwb ar hyn o bryd.

Trundle i Drefelin

Wrth arwyddo i Lanelli, mae Britton yn dilyn yn ôl troed un arall o gyn-chwaraewyr yr Elyrch, Lee Trundle a chwaraeodd i Lanelli'r tymor diwethaf.

Mae Trundle bellach wedi arwyddo i Drefelin, dolen allanol yn nhrydedd adran y de ar ôl iddo adael Hwlffordd.