Ymchwiliad wedi marwolaeth carcharor yn Ngharchar Y Berwyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ôl i garcharor farw yng Ngharchar Y Berwyn, Wrecsam.
Bu farw Michael Quinn Sr, oedd 57 oed ar 1 Ionawr.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Bu farw Michael Quinn Sr a oedd yn garcharor yng Ngharchar Berwyn ar 1 Ionawr, 2019.
"Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau.
"Fel gyda phob marwolaeth yn y ddalfa, bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf."
Does dim manylion pellach ynglŷn ag achos marwolaeth Mr Quinn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018
- Cyhoeddwyd2 Medi 2018