'Wythnosau o waith' i adfer hen waliau ar ben Y Gogarth

  • Cyhoeddwyd
Doug Don ar Ben Y Gogarth
Disgrifiad o’r llun,

Dyw ailosod y cerrig yn y bylchau ddim yn fater syml, yn ôl Doug Don

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud y bydd yn cymryd wythnosau i adfer hen waliau cerrig ar y Gogarth wedi i fandaliaid dynnu cerrig ohonyn nhw.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth, sy'n berchen ar y tir yn Llandudno, mai dyma'r ail dro i bobl dargedu'r waliau cerrig sych ac mae angen dros 100 awr o waith i ddadwneud y difrod.

"Rydym yn gwneud be allan ni i adfer y waliau, gan ddechrau ym man y cwymp mwyaf, ond mae'n waith araf," meddai ceidwad yr ymddiriedolaeth ar y Gogarth, Doug Don.

"Mi gymrodd ddiwrnod cyfan dim ond i baratoi un ardal i'r pwynt lle allan ni ddechrau ailadeiladu."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cerrig eu tynnu o ganol y walia, gan achosi i rannau o'r wal gwympo

Cafodd y waliau eu codi yn 1874. Maen nhw'n yn dalach na waliau cerrig sych arferol, ac mae calch a thywod wedi eu hychwanegu atyn nhw - cam sy'n gwarchod defaid ar y Gogarth rhag gwyntoedd cryf.

Yn yr achos fandaliaeth diweddaraf, cafodd cerrig eu tynnu o ganol y waliau yn hytrach nag o'r top, gan achosi i rannau o'r wal gwympo.

"Mae'n fandaliaeth ddifeddwl. Ni alla'i feddwl am unrhyw reswm pam fyddai unrhyw un eisiau difrodi wal gerrig," meddai Mr Don.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid ailadeiladu rhannau o'r wal o amgylch y tyllau oedd ar ôl wedi i'r fandaliaid symud cerrig

Ychwanegodd: "Yn wahanol i gêm fawr o Jenga, mae siâp anwastad [bylchau yng nghanol y wal] yn golygu na allai'r cerrig gael eu hailosod yn hawdd.

"I ddiogelu'r twll, mae'n rhaid i ni dynnu rhan gyfan o amgylch y darn sydd ar goll.

"Roedd y darnau sydd wedi eu difrodi yn rhai gwreiddiol wedi eu codi yn 1874-5 gan nafis Gwyddelig.

"Mae'r fandaliaid wedi malu rhai o'r cerrig, felly mae bron yn amhosib cael rhai eraill yn eu lle i adfer y waliau fel ag yr oedden nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n anodd cael cerrig o'r un cyfnod yn lle'r rhai y mae'r fandaliaid wedi eu difrodi