Cyn-lywodraethwr Carchar Berwyn yn ôl wedi gwaharddiad
- Cyhoeddwyd

Cafodd Russell Trent ei benodi yn llywodraethwr Carchar Berwyn yn 2015
Bydd cyn-lywodraethwr Carchar Berwyn yn Wrecsam yn dychwelyd i weithio i'r Gwasanaeth Carchardai yn dilyn ei waharddiad y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd Russell Trent ei wahardd o'i waith yn Wrecsam yn Awst 2018 ar ôl i honiadau gael eu gwneud yn ei erbyn.
Mae'r ymchwiliad bellach wedi dod i ben, a bydd Mr Trent yn dychwelyd i'w waith heb unrhyw gamau disgyblu yn ei erbyn.
Ni fydd yn dychwelyd i HMP Berwyn, gan fod y Gwasanaeth Carchardai wedi penodi Nick Leader yn llywodraethwr newydd i'r carchar.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Yn dilyn ymchwiliad i honiadau gafodd eu gwneud yn erbyn Russ Trent, ni fydd unrhyw gamau disgyblu a bydd Mr Trent yn dychwelyd i weithio yn y Gwasanaeth Carchardai."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2019