Disgwyl penderfyniad Hitachi am Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i gwmni Hitachi gyhoeddi a ydynt am barhau, gohirio neu atal yr holl waith ar gynllun atomfa Wylfa Newydd ddydd Iau.
Yn ôl adroddiadau, mae'r cwmni o Japan ar fin atal y gwaith yn sgil costau adeiladu ar y safle yn Ynys Môn.
Roedd y newyddion yn "achos pryder" yn ôl Llywodraeth Cymru.
Cafodd ei amcangyfrif bod gan y prosiect botensial i greu 9,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, a 400 swydd parhaol yn yr ardal.
Roedd rhai'n dyfalu bod atal neu oedi'r datblygiad yn ymgais gan Hitachi i gael cytundeb ariannol gweld gan lywodraethau'r DU a Japan.
Dadansoddiad ein Gohebydd Amgylchedd, Steffan Messenger
Y teimlad dros y dyddiau diwethaf ydy bod disgwyl i Hitachi ohirio'r gwaith ar Wylfa Newydd, ond cadw'r safle yn y gobaith bod modd atgyfodi'r cynllun yn y dyfodol.
Mae lot yn dibynnu ar ddyfodol Wylfa Newydd ar yr ynys, a beth sydd ddim yn glir ydy beth fydd yn digwydd i Horizon, is-gwmni Hitachi, sy'n cyflogi tua 40 o bobl.
Yn ogystal â'r gost yn chwyddo a'r drafferth wrth ddenu buddsoddwyr, mae'n debyg hefyd bod agweddau tuag at ynni niwclear yn Japan wedi newid ers damwain Fukushima yn 2011.
Cyhoeddodd Hitachi y byddai'n cymryd rheolaeth o'r cynllun yn 2012.
Y bwriad oedd gallu cynhyrchu trydan erbyn canol 2020 gan weithio tuag at fod yn weithredol am 60 o flynyddoedd.
Fe wnaeth hen orsaf bŵer Wylfa gau yn 2015 ar ôl gwasanaethu am dros 40 mlynedd.
Is-gwmni Hitachi, Horizon, fyddai'n gyfrifol am adeiladu'r orsaf newydd pe bai'r cwmni'n penderfynu parhau gyda'u cynlluniau.
Beth yw'r farn ar yr ynys?
Mae Carwyn Jones yn 19 oed ac o Lannerch-y-medd ar Ynys Môn, ac mae'n dweud bod "llawer o resymau pam y dylwn i fod yn ddiolchgar am Wylfa" gan fod ei daid a'i dad wedi gweithio yn y diwydiant niwclear ar yr ynys.
Oherwydd hynny dywedodd bod ei blentyndod "wedi cael ei dalu amdano gan Wylfa", a bod yr hen atomfa yn "rhan fawr o'm mywyd i".
Ond er hynny, mae'n "bryder mawr" bod ail atomfa dan ystyriaeth:
"Wrth feddwl am drychinebau megis Chernobyl a Fukushima, mae'r posibiliadau o hynny'n digwydd ar yr ynys yn cronni yng nghefn fy mhen yn aml iawn.
"Mae sefyllfa'r Gymraeg yn ardal yr Wylfa a'r cyffiniau wedi gostwng yn sylweddol, ac mae pryder mawr gen i am ddyfodol yr iaith ar yr ynys yn y dyfodol."
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn y Senedd brynhawn Mercher ei fod yn gobeithio "na fydd [Wylfa Newydd] yn cael ei atal".
Cyhoeddodd y byddai Llywodraeth Cymru yn "gwneud pob dim o fewn ein gallu" i sicrhau bod trigolion yr ardal "yn elwa cymaint ag sy'n bosib o'r prosiect".
Bydd Mr Skates hefyd yn cyfarfod gydag arweinydd Cyngor Môn i drafod camau pellach wedi cyhoeddiad Hitachi.
Dywedodd y gweinidog fod aros am fuddsoddwr arall neu i Lywodraeth y DU fuddsoddi ymhellach a gwladoli'r fenter yn opsiynau posib.
Ychwanegodd Mr Skates: "Os caiff y prosiect ei atal, yna mae'n rhaid i ni ddechrau gweithio'n syth ar hyd y llywodraethau a gydag awdurdodau lleol a gyda'r gymuned fusnes i sicrhau bod yna gyfleoedd gwaith yn y tymor byr wrth i ni chwilio am fuddsoddwr newydd."
Wynebodd y Prif Weinidog Theresa May feirniadaeth gan undeb Unite am beidio â thrafod datblygiad Wylfa Newydd gyda Shinzo Abe, Prif Weinidog Japan yn ystod cyfarfod ar 10 Rhagfyr.
Cafodd Mrs May hefyd ei chyhuddo o ganolbwyntio ar Brexit yn hytrach na brwydro dros Wylfa Newydd.
Er bod nifer yn pryderu am ddyfodol swyddi yn yr ardal yn sgil y cyhoeddiad arfaethedig gan Hitachi, mae nifer o ymgyrchwyr a grwpiau gwrth-niwclear sy'n gobeithio na fydd y datblygiad yn mynd yn ei flaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019