Ai gweithio dwy swydd fydd norm y dyfodol?

  • Cyhoeddwyd

Yn ôl ffigyrau sydd wedi eu rhyddhau yn ddiweddar mae gan chwarter o weithwyr gwledydd Prydain ail swydd erbyn hyn.

Yn aml iawn mae ail swydd sy'n dechrau oherwydd awch i fentro yn troi allan i fod yn brif swydd pan ddaw llwyddiant yn y maes.

Fe siaradodd rhaglen Post Cyntaf ar Radio Cymru ar fore Gwener, 18 Ionawr, gyda phobl ifanc sydd wedi mentro a chael llwyddiant gydag ail swydd.

Ffynhonnell y llun, IestynOwen
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Owen, sydd yn athro ac hefyd yn gwneud canhwyllau

Yn ôl ymchwil gan Ysgol Fusnes Henley, mae 75% o bobl sydd yn cychwyn ail swydd neu fusnes yn gwneud er mwyn gwireddu breuddwyd, neu i gael gwneud rhywbeth maen nhw'n ei fwynhau.

Mae hyn yn wir am Iestyn Owen, sy'n athro ac yn wneuthurwr canhwyllau gyda'r nos.

"Dwi'm yn mynd adra heno a meddwl 'O na! Mae gen i 10 cannwyll i'w wneud'. Dwi'n mynd adra a gwneud o gan fy mod i wir yn mwynhau gwneud nhw. 'Nath o gychwyn fel hobi, ac o'n i'n meddwl hyd yn oed os fyswn i'n gwneud £100 y mis i dalu am betrol i fynd i'r gwaith, mi fyddai fo werth ei wneud.

"Ond rŵan dwi'n cael cynigion gan siopau o bob congl o Gymru a dwi'n cael gymaint o bobl yn ffonio fi eisiau nhw, mae'n hollol surreal i ddweud y gwir."

'Bysa Mam yn fy lladd i'

Ond er llwyddiant y canhwyllau, dydi Iestyn ddim yn barod eto i roi'r gorau i'w brif swydd. "Dwi 'di gweithio mor galed i fod yn athro, dwi'n meddwl bysa Mam yn fy lladd i os 'swn i'n dweud 'mod i'n gadael y proffesiwn. Ond mae'n neis i fi wybod os dwi eisiau cwtogi oriau neu trio rhywbeth gwahanol mae gen i rywbeth i ddisgyn nôl arno - a dyna un o'r rhesymau nes i ddechrau'r busnes."

"Dyma 'di mhleser i, dwi'n licio mentro a dwi'n licio gwneud pethau gwahanol - mae'n gwneud bywyd yn ddiddorol," meddai Elin Jones, a roddodd y gorau i'w phrif swydd fel athrawes wedi i'w hail swydd fel perchennog caffi ddechrau ffynnu.

Ers hynny mae gan Elin sawl swydd, tra'n gweithio fel ymgynghorydd ariannol, mae hi hefyd yn rhedeg caffi ym Mhontcanna, siop ffrogiau priodas gyda'i chwaer a chwmni arlwyo gyda'i ffrind, Gwen.

"Pan o'n i yn y byd addysg roedd gen ti bobl oedd yn gwneud yr un swydd am byth mewn ffordd," esboniodd Elin. "A dyna oedd y norm ers talwm, a dyddiau 'ma gyda'r we a chyfryngau cymdeithasol mae'n mor hawdd i ti wneud rhywbeth gwahanol."

'Hoffi ei wneud fel gyrfa'

Mae Beth Jones yn gweithio i Fenter Caerffili gyda'r dydd, ond yn gomedïwraig gyda'r nos. Er ei bod yn mwynhau ei phrif swydd, y gobaith ydi rhyw ddydd gall ei swydd 'ar y slei' fel comedïwraig droi yn waith llawn amser.

"Dwi'n rili mwynhau fy swydd, ond os byswn i'n cael y cyfle, stand-yp ydy be' dwi eisiau gwneud, a sgwennu a pherfformio comedi. Os byswn i'n cael y cyfle dyna beth fyswn i'n hoffi ei wneud fel gyrfa."

Ffynhonnell y llun, Bethjones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beth Jones yn gobeithio cael y cyfle i ganolbwyntio ar ei stand-yp yn llawn amser rhyw ddydd

"Ond dwi yn reit saff gan fod gen i swydd â chyflog misol. Mae fy ngŵr i yn self-employed, ac felly fysa'r ddau o'na ni methu bod."

Felly am rŵan, talu am y pethau bach ychwanegol fydd elw'r ail swydd yn ôl Beth.

"Mae cael ail swydd (stand-yp) yn galluogi fi gael y luxuries bach, fel pâr o 'sgidiau newydd neu got," meddai.

Ond yn wahanol i Beth ac Iestyn, mae Trystan ab Owen, sy'n actor, yn dibynnu ar ei ail swydd i ennill bywoliaeth.

"Dwi'n credu bysa fo bron yn amhosib i fi gael swydd arall oni bai am actio. Mae'r maes yn un anodd fel mae hi, a gallet ti fynd i 10 cyfweliad mewn wythnos, gan ond cael un swydd. Felly yn bendant mae rhaid ti gael swydd arall i ennill bywoliaeth."

Pwy a ŵyr, efallai y bydd cael dim ond un swydd yn rhywbeth anghyffredin iawn yn y dyfodol...

Hefyd o ddiddordeb: