'Byddai colli gwasanaeth cludo llyfrau yn ergyd fawr'
- Cyhoeddwyd
Mae defnyddwyr gwasanaeth sy'n cludo llyfrau i gartrefi dros 200 o bobl yn Abertawe yn dweud y bydd colli'r gwasanaeth yn ergyd fawr.
Mae cyngor y ddinas yn ymgynghori ar eu cyllideb ar gyfer 2019-20, sy'n cynnwys cynnig i ddirwyn y gwasanaeth - sydd am ddim - i ben.
Nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto, ond mae pensiynwyr yn annog yr awdurdod i ailystyried a pharhau â'r gwasanaeth "hollbwysig".
Dywedodd Cyngor Abertawe bod yn rhaid dod o hyd i ffordd o sicrhau bod y gwasanaeth yn talu am ei hun.
'Gerthfawr dros ben'
Mae Heather Hopkin, 84 o Bontarddulais, yn ei ddisgrifio fel "gwasanaeth arbennig".
"Wy'n derbyn cwdyn a tua 10 o lyfrau bob mis," meddai.
"Maen nhw'n dod i'r tŷ ac maen nhw'n werthfawr dros ben i mi achos wy ddim yn gallu cerdded yn bell.
"O'n i arfer mynd i'r llyfrgell ym Mhontarddulais yn gyson, ac roedd y merched yno'n dda dros ben, ond aeth hi yn y diwedd fel o'n i ddim yn gallu cerdded o'r maes parcio i'r adeilad."
Ar ôl iddi ddweud wrth swyddogion y llyfrgell ni fyddai hi'n gallu parhau i fynd yno oherwydd ei hiechyd, dywedodd Ms Hopkin bod swyddog wedi sicrhau ei bod hi'n derbyn llyfrau yn ei chartref.
"Mae'n gysur mawr. Os bydde fe'n gorffen bydden i'n torri fy nghalon," meddai.
"Byddai'n rhaid i fi brynu llyfrau fy hun, a gallen i fyth fforddio 10 llyfr y mis.
"Mae byw fel person sengl yn ddrud. Os ydych chi moyn cael tipyn bach o gysur a tipyn bach yn extra, mae'n rhaid talu."
Ceisio arbed £24.5m
Mae'r gwasanaeth wedi bod yn rhedeg am dros 30 mlynedd ac mae defnyddwyr yn dweud ei fod yn un pwysig iawn i bobl mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell y sir.
Mae dros 200 o bobl sydd ddim yn gallu gadael eu cartrefi oherwydd anabledd neu henaint yn defnyddio'r gwasanaeth, gyda chwsmer hynaf y cyngor yn 102 oed.
Mae'n rhaid i Gyngor Abertawe dorri £24.5m o'u cyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae'r awdurdod yn blaenoriaethu addysg a gofal cymdeithasol.
Mae cyfnod ymgynghori'r gyllideb yn dod i ben ar ddiwedd y mis, ac mae testun yr ymgynghoriad yn dweud bod yn rhaid dod o hyd i ffordd o sicrhau bod y gwasanaeth yn talu am ei hun.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod eisiau darganfod os ydy'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth ag unrhyw syniadau ynglŷn â'i ddyfodol.
"Gallai hwn gynnwys partneriaeth gydag elusen neu grwpiau cymunedol," meddai'r llefarydd.
Ychwanegodd y llefarydd hefyd mai "proses ymgynghori" yw hyn o hyd, a bod "dim penderfyniad terfynol ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth wedi'i wneud eto".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017