Pryder bod Cymru'n 'colli ei henw da ym myd cerddoriaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth ac mae ei threftadaeth mewn peryg, yn ôl cannoedd o bobl sydd wedi arwyddo deiseb yn galw am gryfhau'r ddarpariaeth cerdd yn ein hysgolion.
Mae un cerddor blaenllaw wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn poeni am ddyfodol eisteddfodau os na fydd pethau'n newid.
Mae'r pianydd proffesiynol a'r darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, Iwan Llewelyn Jones, yn galw hefyd am fwy o reolaeth o safonau dysgu cerdd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldeb dros ddarparu'r gwasanaethau.
Mae darpariaeth a gwasanaethau cerdd yn amrywio ar draws Cymru ac, yn ôl rhai, mae'r safon yn wahanol o un ardal i'r llall.
'Gwahanol ym mhob sir'
Yn Ysgol Tryfan ym Mangor, mae 'na bwyslais mawr ar gerddoriaeth, gyda'r band jazz yn cael llwyddiant mewn cystadlaethau ac yn perfformio'n gyson yn yr ardal.
Dywedodd Hefin Evans, pennaeth cerdd yr ysgol: "Be' sy'n ffodus yma yn Ysgol Tryfan ydy bod 'na gymaint yn cymryd rhan.
"Ond dwi yn ymwybodol trwy'r wlad i gyd, ac mewn rhannau o Wynedd, bod 'na doriadau yn digwydd.
"Mae 'na lot o sôn bod oriau yn yr ysgol yn cael eu torri, bod y ddarpariaeth TGAU a Lefel A yn cael ei dynnu'n ôl.
"Mae'n wahanol ym mhob sir, ond mae o'n sicr yn digwydd i ryw raddau ym mhob sir."
Mae rhai o'r disgyblion hefyd yn pryderu am sefyllfa cerdd o fewn y byd addysg yng Nghymru.
"Mae 'na lot o ddisgyblion dan anfantais - dydyn nhw ddim yn cael yr un cyfleoedd â ni," meddai Medi.
"Felly dwi'n meddwl bod angen datrys hynny, fel bod pawb yn cael y cyfle i chwarae cerddoriaeth."
Er bod ysgolion fel Tryfan yn gweld gwerth cerddoriaeth, mae'n ymddangos nad dyma'r sefyllfa ym mhobman.
Mae dros 1,500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn dweud bod Cymru mewn perygl o golli'i henw da yn gerddorol, ac yn galw am gynllun cenedlaethol brys ar gyfer addysg cerdd.
'Llai yn dysgu'r pwnc'
Mae ffigyrau'n dangos bod nifer y bobl ifanc sy'n astudio'r pwnc at Safon Uwch wedi haneru yng Nghymru mewn 10 mlynedd, o 737 i 370, a'r nifer wnaeth gofrestru ar gyfer TGAU i lawr 40%, o 3,779 i 2,201.
"Dwi wedi poeni lot dros y blynyddoedd am gerddoriaeth fel pwnc craidd mewn ysgolion," meddai'r pianydd, Mr Jones.
"Mae 'na lai o wersi ac wrth gwrs mae Lefel A wedi mynd mewn sawl ysgol ac yn cael ei ddysgu'n ganolog.
"Ym Mhrifysgol Bangor, mae gennym ni fyfyrwyr yn dod o sawl sefyllfa. Rhai yn medru darllen cerddoriaeth, rhai ddim - mae safonau perfformio yn wahanol."
Mae'r darlithydd perfformio ym Mhrifysgol Bangor yn poeni am yr effaith bosib ar ddiwylliant Cymru, gan gynnwys eisteddfodau.
"Mae unrhyw 'steddfod yn dibynnu ar athrawon i hyfforddi," meddai.
"Mae'r niferoedd sy'n cymryd y pwnc TGAU a Lefel A wedi gostwng yn enfawr, felly mae 'na lai yn mynd i ddysgu'r pwnc.
"'Da ni wedyn yn gorfod dibynnu ar bwll bychan iawn o bobl - rhai ddim â'r cymwysterau i ddysgu'r pwnc i'r safon sydd ei angen - i gadw pethau fel canu pedwar llais neu ddeulais, dehongli a dadansoddi caneuon."
Fis Rhagfyr, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai yna £3m yn ychwanegol dros ddwy flynedd ar gyfer addysg a chyfleoedd cerddoriaeth i ddisgyblion.
Ond mae'r cyfrifoldeb dros ddarparu'r gwasanaethau yn nwylo awdurdodau lleol, meddai'r llywodraeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2016