Heddlu 'wedi cyfrannu' at farwolaeth Meirion James

  • Cyhoeddwyd
Meirion JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Meirion James yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Hwlffordd ar 31 Ionawr 2015

Fe wnaeth yr amser a'r ffordd y cafodd dyn o Grymych ei atal gan swyddogion heddlu gyfrannu at ei farwolaeth, yn ôl rheithgor mewn cwest.

Bu farw Meirion James, 53, yng ngorsaf heddlu Hwlffordd ar ôl i swyddogion yr heddlu ddefnyddio cyffion, rhwystrau ar y coesau ac offer chwistrellu er mwyn ei atal.

Clywodd y llys ei fod wedi bod yn dioddef o iselder manig ers degawdau.

Er bod y rheithgor wedi cytuno fod swyddogion yn iawn i atal Mr James wedi iddo ruthro o'i gell, dywedodd nad oedd hi'n briodol i barhau i'w ddal ar lawr tu allan i'w gell yn wynebu'r llawr.

Daeth y rheithgor i'r casgliad fod y ffordd neu/a'r safle y cafodd ei atal wedi achosi neu fwy na chyfrannu ychydig at ei farwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Ceisiodd Meirion James ruthro allan o'i gell, cyn cael ei ddal i lawr gan heddweision

Daeth y rheithgor hefyd i'r casgliad fod methiant doctoriaid i wneud asesiad iechyd meddwl ar Mr James wedi cyfrannu tuag at ei farwolaeth.

Dywedodd y rheithgor mai achos ei farwolaeth oedd trwy fygu.

'Sicrhau rheolaeth'

Fe wnaeth Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed Powys, Vicki Evans gydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Mr James.

Dywedodd: "Yn syth wedi'r digwyddiad fe wnaethom gyfeirio'r achos at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IOPC).

"Mae eu hargymhellion wedi cael eu gweithredu," meddai.

Clywodd y cwest bod chwistrell PAVA wedi ei ddefnyddio ar Mr James er mwyn ei atal.

Dywedodd y Sarjant Hamish Nicholls, wnaeth ddefnyddio'r chwistrell, ei fod yn gwybod bod perygl y gallai Mr James fygu, ond bod y ffocws ar "sicrhau rheolaeth".

Clywodd y cwest hefyd gan Sarjant Mark Murray o Heddlu Dyfed-Powys, a ddywedodd ei fod yn gwybod bod gan Mr James afiechyd meddwl, ond nid bod ganddo anhwylder deubegynol, na'i fod wedi ei weld yn tynnu ei wallt o'i ben yn ei gell.

Wedi'r cwest, dywedodd Cyfarwyddwr Cymru yr IOPC, Catrin Evans, nad oedd gweithredoedd yr heddlu'n haeddu camau disgyblu, yn dilyn ymchwiliad annibynnol.

Er hynny, dywedodd bod "rhai agweddau o rôl yr heddlu gyda Mr James nad oedd yn cydfynd â'r drefn gywir".

Roedd y rhain yn cynnwys creu cofnod cywir ar gyfer Mr James yng ngorsaf Aberystwyth, fyddai wedi rhoi "gwybodaeth bwysig" i swyddogion yn Hwlffordd.