Heddlu 'heb reolaeth' o Meirion James cyn ei farwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bu farw Meirion James yng ngorsaf heddlu Hwlffordd ar 31 Ionawr 2015

Mae cwest dyn o Sir Benfro a fu farw yn y ddalfa wedi clywed bod ffocws yr heddlu yn fwy ar ei reoli nac atal rhag y risg o fethu anadlu.

Bu farw Meirion James, 53 oed ac o Grymych, yn Ionawr 2015 ar ôl i swyddogion yr heddlu ddefnyddio cyffion, rhwystrau ar y coesau ac offer chwistrellu er mwyn ei atal yng ngorsaf heddlu Hwlffordd.

Wrth roi tystiolaeth ddydd Mercher dywedodd Sarjant Hamish Nicholls iddo geisio helpu swyddogion eraill wrth rwystro Mr James, dyn oedd â hanes hir o iselder cronig.

Dywedodd fod pedwar o swyddogion yn ceisio rheoli Mr James oedd yn "ymrafael ac yn symud ar y llawr" tra ar ei gefn.

Yn ôl y sarjant roedd Mr James yn ddyn cryf, a methodd a rhoi cyffion ar ei fraich dde.

"Doeddwn i ddim yn teimlo fod gennym reolaeth arno," meddai.

Yn ôl bargyfreithiwr ar ran Llys y Crwner, Gabriel Farmer - roedd lluniau camerâu cylch cyfyng yn awgrymu fod "y ffocws ar reoli Meirion James yn hytrach nag atal y risg iddo o fethu anadlu oherwydd bod ei gorff yn y safle anghywir.

Atebodd Sarjant Nicholls: "Yn gywir, ond roedd rhaid cydbwyso hynny gyda rheoli dyn oedd wedi defnyddio trais er mwyn dianc o'r gell."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y cwest bod Mr James ar "un eiliad yn brwydro, ac yna yn llonydd yr eiliad nesaf" yn y ddalfa

Clywodd y cwest fod Mr James wedi troi oddi ar ei gefn yn ystod yr ymrafael. Dywedodd Sarjant Nicholls nad oedd wedi penlinio ar Mr James na rhoi pwysau arno.

Cafodd chwistrellydd PAVA ei ddefnyddio gan geisio effeithio golwg Mr James.

Yn ôl y plismon ni chafodd hynny unrhyw effaith.

Dywedodd Sarjant Nicholls ei fod wedi rhoi ei bastwn ar goesau Mr James - techneg sy'n cael ei ddefnyddio i rwystro pobl rhag cicio.

Dywedodd bod Mr James ar "un eiliad yn brwydro, ac yna yn llonydd yr eiliad nesaf".

Wedi hynny, ceisiodd yr heddlu am guriad pwls Mr James a sicrhau fod ei gorff ar ei ochr.

Dywedodd ei fod yn ymwybodol o'r risg o fwy o broblemau anadlu gyda rhywun o faint Mr James yn gorwedd ar ei stumog.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mr James tra'i fod yn y ddalfa yn Hwlffordd

Fe wnaeth Rajiv Menon QC, cyfreithiwr teulu Mr James, gyfeirio at sgyrsiau oedd wedi eu recordio yn y ddalfa'r bore hwnnw.

Dywedodd Mr Menon fod trawsgrifiad o'r sgyrsiau yn rhoi'r argraff fod swyddogion yr heddlu yn trin Mr James fel "plentyn anystywallt" yn hytrach nag unigolion gydag iselder manig.

Cytunodd y sarjant fod y trawsgrifiad yn rhoi'r argraff hynny.

Mae'r cwest eisoes wedi clywed fod Mr James, oedd â hanes hir o iselder cronig, yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei fam oedrannus.

Mae'r cwest yn parhau.