Agor canolfan Gymraeg newydd ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Bydd canolfan newydd i hybu'r Gymraeg yn agor ym Mhort Talbot ddydd Sadwrn.
Nod y ganolfan yw hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn ardal Castell-nedd Port Talbot a darparu gwybodaeth am fanteision addysg Gymraeg.
Mae Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe wedi'i hagor ar safle hen siop gyfrifiadurol yng Nghanolfan Siopa Aberafan.
Mae modd i ymwelwyr alw heibio i drefnu sesiynau blasu am ddim yn y ganolfan er mwyn cael rhagflas o'r ddarpariaeth Cymraeg i oedolion sydd ar gael.
'Presenoldeb ledled Cymru'
Dywedodd Iestyn Llwyd, rheolwr busnes a datblygiad strategol Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe: "Prif fwriad y ganolfan hon yw amlygu a datblygu cyfleoedd i drigolion Port Talbot a'r cyffiniau i ddysgu Cymraeg.
"Mae'r prosiect hefyd yn cynnig cyfle i gydweithio gyda phartneriaid eraill, ac yn fodd o dynnu sylw at waith da yr ystod o sefydliadau a mudiadau sydd hefyd yn gweithio yn lleol er budd y Gymraeg ac sydd hefyd yn rhan o rwydwaith o gefnogaeth i ddysgwyr."
Mae'r prosiect i sefydlu'r ganolfan wedi bod yn bosib drwy gyfrwng grant arloesi gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Mae cael presenoldeb gweledol mewn cymunedau ledled Cymru yn flaenoriaeth i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod pobl yn dod i wybod am y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael i ddysgu ac ymarfer y Gymraeg.
"Mae'r ganolfan wib newydd yn enghraifft wych o hynny, a dymunwn yn dda i griw Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe gyda'r fenter newydd hon."
Bydd y ganolfan ar agor rhwng 10:00 a 16:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener wedi'r agoriad ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd23 Medi 2015
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2015