Dim gwiriadau cefndir ar staff Abertawe Bro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Kris WadeFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd panel disgyblu bod sail i dri honiad o ymosodiadau rhyw yn erbyn Wade - tair wythnos ar ôl iddo lofruddio Christine James

Nid oedd y gwiriadau priodol wedi'u cynnal ar ddwsinau o staff mewn bwrdd iechyd, yn ôl corff sy'n arolygu safonau.

Mae'r adolygiad hefyd yn feirniadol o driniaeth Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg o honiadau o gam-drin rhyw yn erbyn cyn-weithiwr iechyd aeth ymlaen i lofruddio ei gymydog yn 2016.

Daeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i'r casgliad nad oedd cefndir Kris Wade wedi ei wirio - yn debyg i 142 o bobl eraill oedd yn gweithio yn ei hen adran.

Dywedodd y bwrdd iechyd bod "prosesau recriwtio llawer mwy llym bellach mewn grym" tra bod Llywodraeth Cymru'n "disgwyl i'r bwrdd iechyd "ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad".

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi gofyn am gyngor gan fyrddau iechyd am y dull mwyaf effeithiol o dynhau'r rheolau gwirio ar draws Cymru.

"Pan geir cytundeb ynglŷn â'r dull, bydd y mesurau hyn yn cael eu rhoi ar waith mor gyflym â phosibl," meddai.

142 heb eu gwirio

Ni chafodd Wade wiriad cofnodion troseddol (CRB) pan gafodd ei ail-leoli i weithio fel cynorthwyydd gofal yn 2004 neu pan gafodd archwiliadau datgelu a gwahardd (DBS) eu cyflwyno yn 2012.

Gwnaeth tri pherson dan ofal y gwasanaeth anableddau dysgu honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn Wade rhwng 2011 a 2013.

Cafodd ei atal o'i waith yn 2012 yn dilyn yr honiadau, ond roedd yn dal i gael ei gyflogi gan y bwrdd iechyd hyd at 2016 pan lofruddiodd Christine James ym Mae Caerdydd.

Ond yn ôl yr heddlu'n ddiweddarach, mae'n annhebygol byddai unrhyw bryderon wedi dod i'r amlwg am Wade pan ddechreuodd weithio gyda chleifion bregus.

Nid oedd unrhyw amheuon wedi dod i'r amlwg ynglŷn â'i berfformiad - cyn i'r cyntaf o'r tri honiad gael eu gwneud.

Daeth yr arolygiaeth i'r casgliad nad oedd cefndir troseddol 142 o'r 2,000 o staff oedd yn gweithio yn adran anableddau dysgu Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi eu gwirio.

Bellach mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod gwiriadau yn cael eu cynnal ar 90% o'i staff yn yr adran honno, gyda hanner wedi eu cwblhau.

Ffynhonnell y llun, Google | South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Wade lofruddio Christine James ym Mae Caerdydd yn 2016

Mae'r adolygiad annibynnol gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn 2017 hefyd yn nodi:

  • "Oedi annerbyniol" ar ôl i glaf benywaidd mewn uned yn Nhrelái, Caerdydd ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol a chyffwrdd amhriodol.  Abertawe Bro Morgannwg oedd yn gyfrifol am yr uned.

  • Pan gafodd Wade ei ail-leoli o'i swydd gyfrifiadurol gyda'r bwrdd iechyd i fod yn gynorthwyydd gofal - fe ddechreuodd ar y gwaith llanw ffurflen gais.

  • Cafodd Wade ei orfodi i gymryd gwyliau ar ôl yr honiad cyntaf, yn hytrach na chael ei wahardd o'i waith

  • Roedd y broses ddisgyblu yn rhy hir - gyda'r ymchwilydd yn gwneud y gwaith ochr yn ochr â'i swydd arferol. Ni chafodd staff eraill eu cyfweld, fyddai wedi rhoi mwy o gyd-destun i'r sefyllfa.

  • Er bod tad Wade yn gyn-gyfarwyddwr clinigol yr adran anableddau dysgu, roedd yr arolygiaeth gofal yn fodlon nad oedd ganddo ddylanwad uniongyrchol ar y broses ddisgyblu.

  • Fodd bynnag roedd pryderon bod yna wrthdaro buddiannau.

Mae'r archwiliad wedi gwneud argymhellion yn cynnwys neilltuo amser ac arian ar gyfer ymchwiliadau, gwella prosesau adrodd ar ddiogelwch ac edrych ar hyfforddiant ar ddiogelu cleifion.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Wade ei ail-leoli i uned yn Nhrelái, Caerdydd, oedd yn cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg

Dywedodd Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ei bod yn "eithaf siomedig" bod staff oedd yn gweithio gyda phobl fregus ddim wedi cael gwiriadau sylfaenol a bod hyn yn gorfod bod yn rhan o weithdrefnau er mwyn diogelu cleifion.

Dywedodd Tracy Myhill, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: "O waelod fy nghalon rwy'n cydymdeimlo gyda'n cleifion ac i deulu y person a gafodd ei llofruddio.

"Mae'r adroddiad yn cydnabod fod cynnydd wedi bod.

"I fi mae'n rhoi ffocws ychwanegol i'r gwelliannau roeddem yn ceisio eu cyflawni beth bynnag."

Ychwanegodd bod "prosesau recriwtio llawer mwy llym bellach mewn grym ar lefelau lleol a chenedlaethol" ond ei bod yn "cytuno gydag AGIC bod hyd yn oed mwy gallwn ni ei wneud".

'Siomedig'

Yn ôl Mr Gething mae rhai o'r canfyddiadau'n ymwneud â rheolau diogelwch yn "arbennig o siomedig".

Ond dywedodd fod gan y bwrdd iechyd dîm gweithredol newydd erbyn hyn, a'i fod wedi derbyn sicrwydd bod gwelliannau ar waith yn y meysydd dan sylw.

Ychwanegodd: "Gwneir 24 o argymhellion yn yr adroddiad, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gweithredu tri ohonynt ar sail Cymru gyfan.

"Disgwyliaf i'r Bwrdd Iechyd ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn, a sicrhau eu bod yn cael sylw, ac ymwreiddio unrhyw newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau."