Asesu ymateb bwrdd iechyd cyn llofruddiaeth cymydog

  • Cyhoeddwyd
Kris WadeFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Bydd archwiliad yn asesu a wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ddelio'n briodol â honiadau yn erbyn cymhorthydd nyrsio aeth ymlaen i lofruddio'i gymydog.

Daeth cadarnhad ddydd Llun o faes gorchwyl archwiliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW) i ymateb y bwrdd i honiadau bod Kris Wade wedi ymosod ar gleifion yn rhywiol, cyn iddo ladd Christine James yn ei fflat ym Mae Caerdydd.

Llywodraeth Cymru wnaeth drefnu'r archwiliad ar ôl i Wade, sydd bellach yn 38, gael dedfryd o garchar am oes gydag isafswm o 21 mlynedd dan glo.

Fe fydd yr archwiliad hefyd yn gofyn pa wersi gall y GIG ar draws Cymru eu dysgu o'r achos.

Bydd HIW yn edrych i adolygiad mewnol y bwrdd wedi tri honiad gwahanol yn erbyn Wade yn y gweithle.

Ystyried camau'r bwrdd

Roedd Wade wedi cael ei atal o'i waith pan laddodd Ms James, 65, mewn ymosodiad gyda chymhelliant rhywiol ym Medi 2016.

Mae disgwyl i'r arolygwyr asesu pa mor fanwl oedd arolygiad y bwrdd, a pha mor gywir oedd eu penderfyniadau ar sail y dystiolaeth o'u blaenau.

Hefyd fe fyddan nhw'n penderfynu a wnaeth y bwrdd ddigon i sicrhau diogelwch cleifion.

Mae gofyn iddyn nhw edrych ar feysydd yn cynnwys recriwtio staff, cofnodi honiadau, a "llywodraethu a diwylliant".

Mae disgwyl i'r arolwygwyr orffen eu gwaith cyn diwedd y flwyddyn, ac fe fydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi.

Y llynedd fe gyhoeddodd un o'r tair menyw ag anableddau dysgu wnaeth gwyno bod Wade wedi ymosod arni yn y ganolfan lle roedd yn gweithio fwriad i gymryd camau cyfreithiol.

Fe ymddiheurodd y bwrdd gan ddweud bod rhai aelodau staff "heb ddilyn canllawiau mor gadarn ag y dylien nhw fod wedi gwneud".

Mae'r bwrdd wedi croesawu'r archwiliad ac wedi gwneud addewid i gydweithredu'n llawn.