Galw ar y gwasanaeth iechyd i gyfathrebu'n well

  • Cyhoeddwyd
WardFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae angen i'r gwasanaeth iechyd ddal i fyny gyda'r defnydd o dechnoleg er mwyn gwella'r modd mae'n cyfathrebu gyda chleifion, yn ôl Cadeirydd Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru

Daw sylwadau'r cadeirydd, John Morgan, ar ôl i'r bwrdd gynnal ymgynghoriad i gael barn pobl Cymru ynglŷn â'r modd mae'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) yn cyfathrebu gyda chleifion.

Cafodd 1,000 o bobl o bob cwr o Gymru eu holi.

Mae'r adroddiad yn cydnabod fod enghreifftiau o gyfathrebu da, ac ar ei orau mae'n gwneud i bobl deimlo'n ddiogel ac yn ei "gwneud hi'n haws ymdopi gydag amseroedd anodd".

Ond mae'n tynnu sylw at wendidau hefyd.

Mae'n dweud bod cyfathrebu gwael, neu ddiffyg cyfathrebu, yn gwneud i bobl deimlo'n rhwystredig ac yn ofnus.

Sgiliau cyfathrebu

Dywed yr adroddiad: "Nid oedd cleifion yn teimlo, bob amser, bod ganddynt unrhyw lais neu reolaeth dros eu hiechyd a'u gofal, ac nad oeddent, bob amser, yn gallu mynegi eu pryderon yn hawdd."

Soniodd cleifion hefyd bod yr iaith a ddefnyddir yn y GIG, yn aml, ddim yn gwneud synnwyr iddyn nhw.

Roedden nhw'n rhwystredig nad oedd pethau syml sy'n gwneud bywyd bob dydd yn haws, fel negeseuon testun ac e-byst, yn cael eu defnyddio.

Dywedodd Mr Morgan: "Mae niferoedd a natur yr ymatebion a gawsom yn dangos mor angerddol mae llawer o bobl yn teimlo am bwysigrwydd cyfathrebu da yn y GIG.

"Credwn yn gryf y dylai gwella cyfathrebu fod wrth wraidd y datblygiadau a'r newidiadau y mae angen i'r GIG eu gwneud.

"Credwn fod angen i'r GIG flaenoriaethu sut mae'n datblygu a gwerthfawrogi sgiliau cyfathrebu ei weithlu presennol ac yn y dyfodol.

"Rhaid iddo ddal i fyny gyda'r defnydd o dechnoleg, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn hawdd, a bod cyfathrebu yn digwydd yn gyflymach a symlach i gleifion a'u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol."

Mae Ffederasiwn GIG Cymru wedi cael cais am ymateb i gynnwys yr adroddiad.