Gwario £44m ar ffordd all beidio gweld golau dydd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £44m ar "gostau datblygu" wrth gynnal ymchwiliad i gynigion ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd.
Roedd y costau'n cynnwys amcangyfrifon o ran traffig, arolygon amgylcheddol, gwaith dylunio, ac £11.5m i ariannu'r ymchwiliad ei hun.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "gymesur gyda phrosiectau mawr arall o ran isadeiledd".
Fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns ddydd Iau ei fod yn deall y byddai adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus o blaid y cynllun.
Fe wnaeth yr ymchwiliad gymryd tua blwyddyn i'w gwblhau, a cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2018.
Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford fydd nawr yn dewis os yw am fwrw 'mlaen â'r ffordd 14 milltir o hyd i'r de o Gasnewydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y costau datblygu yn cynnwys "popeth sydd ei angen i helpu dod i benderfyniad i symud ymlaen a chreu cynllun dylunio ac adeiladu manwl ai peidio".
Byddai'r cynlluniau ar gyfer y ffordd rhwng Magwyr a Chas-bach yn cynnwys adeiladu pont newydd dros Afon Wysg ac ail-ddylunio cyffyrdd 23 a 29 yr M4.
Mae'r gwrthbleidiau'n gwrthwynebu'r cynlluniau presennol, ac mae'r llywodraeth wedi addo y bydd ACau yn cael pleidlais arnynt.
Fe wnaeth cannoedd o bobl fynychu protest yn erbyn y cynlluniau am y ffordd y tu allan i'r Cynulliad ym mis Rhagfyr.
Mae cadwraethwyr hefyd yn gwrthwynebu'r cynigion, gan ddweud y byddai'n "ymosodiad uniongyrchol" ar ardal bywyd gwyllt Lefelau Gwent.
Ond mae dwsinau o arweinwyr busnes a chynghorau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fwrw 'mlaen â'r ffordd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2018