Disgwyl dechrau chwilio gwely'r môr am awyren Sala
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r gwaith o chwilio ar hyd gwely'r môr am arwyddion o awyren Emiliano Sala ddechrau dydd Sul.
Bydd timau chwilio yn defnyddio technoleg sonar arbenigol y llong, FPV Morven er mwyn sganio'r ardal sydd o ddiddordeb.
Fe ddiflannodd ymosodwr newydd Caerdydd, 28, ynghyd a pheilot y Piper Malibu, David Ibbotson, wrth hedfan dros Fôr Udd wythnos ddiwethaf.
Mae'r gwaith chwilio wedi ei ariannu yn breifat ar ôl i ymgyrch codi arian gasglu dros €320,000.
Yn dilyn gwaith chwilio eang mae'r Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr bellach yn credu eu bod nhw wedi darganfod rhannau o sedd o'r awyren.
Dywedodd yr ymchwilwyr eu bod nhw wedi amlygu ardal pedair milltir sgwâr o fôr fel ffocws ar gyfer y gwaith chwilio diweddaraf.
Ychwanegodd y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr eu bod nhw'n ymwybodol o'r gwaith chwilio preifat a'u bod yn "cydweithio yn agos gyda'r rhai sy'n ymwneud â hynny".
'Anodd dygymod'
Dywedodd David Mearns sy'n cydlynu rhan o'r chwilio, y byddai ei dim yn gweithio ar y cyd gydag ail gwch sydd wedi'i gomisiynu gan gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr.
"Mae'r teulu yn ei gweld hi'n anodd dygymod gyda beth sydd wedi digwydd.
"Rydym yn ceisio canfod atebion iddyn nhw ynglŷn â beth ddigwyddodd. Byddwn yn parhau i chwilio nes bydd yr awyren yn cael ei chanfod," meddai.
Bydd Caerdydd yn chwarae eu gêm gartref gyntaf ers y digwyddiad, a hynny yn erbyn Bournemouth ddydd Sadwrn.
Mae munud o dawelwch wedi'i drefnu cyn y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr a bydd crysau'r Adar Gleision yn cynnwys Cennin Pedr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2019