Adnewyddu tai teras 'Strydoedd Cymreig' Lerpwl

  • Cyhoeddwyd
Madryn Street

Ar ôl blynyddoedd o ffraeo gwleidyddol mae rhan fwyaf o dai teras 'Strydoedd Cymreig' Lerpwl bellach wedi cael eu hadnewyddu.

Mi gafodd y cynlluniau gwreiddiol i'w dymchwel eu hatal rai blynyddoedd yn ôl, yn rhannol am fod drymiwr y Beatles, Ringo Starr wedi ei eni yn un ohonyn nhw - 9 Stryd Madryn.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd y tai mewn cyflwr gwael ac roedd cynlluniau i'w dymchwel.

Ond, erbyn hyn maen nhw'n y broses o gael eu hailwampio i'w rhentu gan y cyngor a chymdeithasau tai.

Am flynyddoedd mi dyrrodd miloedd o ogledd Cymru i'r ddinas i chwilio am waith. Roedden nhw angen rhywle i fyw, a tua diwedd y 19eg ganrif fe adeiladon nhw'r tai yn ardal Toxteth, ac enwa'r strydoedd hyd heddiw yn atgof o'r hanes.

Yn ddiweddar daeth Stryd Powis i amlygrwydd gan mai yno y cafodd rhai o olygfeydd y gyfres boblogaidd Peaky Blinders eu ffilmio.

Ar un adeg yn y 19eg ganrif roedd un o bob deg o drigolion Lerpwl yn Gymry.

O ran sefyllfa'r adnewyddu, ma' 'na ddeuoliaeth rhywsut achos mae 'na rai tai wedi eu hadnewyddu'n llwyr - ac yn edrych yn newydd sbon - ochr yn ochr â chartrefi sydd heb eu cyffwrdd o gwbl ac sy'n llanast llwyr.

Ond, mae'n braf iawn cael cerdded ar hyd y strydoedd yma o gofio gymaint o hanes sydd yma a'r cysylltiadau â Cymru. Tasa'r waliau 'ma ond yn medru siarad.