'Nifer yn ystyried gadael y Blaid Lafur dros Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Corbyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi cyflwyno pum gorchymyn i Theresa May a fyddai angen iddo newid ei safbwynt ar gytundeb Brexit

Mae Aelodau Seneddol Llafur o Gymru wedi dweud ei fod yn ystyried gadael y blaid a bod "nifer o bobl eraill" hefyd yn ystyried gwneud hynny.

Mewn ymateb i gwestiwn gan y BBC a oedd yn bwriadu gadael, dywedodd AS Pontypridd, Owen Smith: "Rwy'n meddwl bod hynny'n gwestiwn da, a rwy'n meddwl ei fod yn rhywbeth rydw i a nifer o bobl eraill yn ei ystyried ar hyn o bryd."

Daeth ei sylwadau ar BBC Radio 5Live wedi i Jeremy Corbyn amlinellu pum gorchymyn y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU eu bodloni i sicrhau cefnogaeth y Blaid Lafur i gytundeb Brexit Theresa May.

Mae'r telerau hynny, sy'n cynnwys ymuno â'r undeb tollau, wedi hollti barn ymhlith ASau ac ACau Llafur Cymru.

'Bwydo nostalgia brodorol'

Roedd y telerau mewn llythyr i Mrs May wrth iddi hithau deithio i Frwsel i gynnal mwy o drafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Mewn negeseuon ar Twitter, mae ACau ac ASau Llafur sy'n galw am refferendwm arall wedi beirniadu Mr Corbyn, tra bod eraill yn ei gefnogi.

Dywedodd AS Pontypridd, Owen Smith y byddai Brexit, hyd yn oed ar dermau Mr Corbyn, "yn dal i grebachu ein heconomi, arwain at golli swyddi a buddsoddiadau, yn bwydo nostalgia brodorol ac ynysig... a chreu llwybr ar gyfer llymder pellach dan law llywodraeth Dorïaidd".

Ychwanegodd: "Atgoffwch fi, pam fydden ni eisiau gwneud hynny?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Smith wedi dadlau yn gyson yn erbyn Brexit

Dywedodd Mr Smith wedyn ar BBC Radio 5Live bod y posibilrwydd o adael y blaid "yn gwestiwn mae'n rhaid i fi ac i bobl â'r un farn â fi ei ystyried".

Ychwanegodd: "Y gwir amdani yw nad yw Brexit yn cyd-fynd â'm gwerthoedd.

"Mae'n brosiect ideolegol adain dde, mae'n brosiect brodorol, cafodd ei sbarduno gan gelwyddau a chafodd ei gyflwyno'n gelwyddog yn 2016."

Dywedodd Tonia Antoniazzi, AS Gŵyr ar Twitter: "Braf cael gwybod am hyn @UKLabour @WelshLabour - os ydych ar UNRHYW bwynt yn awyddus i siarad gydag ASau ac ystyried y cynnig cafodd ei wneud yng nghynhadledd y Blaid Lafur... Gadewch i mi wybod... Diolch..."

A dywedodd AC Blaenau Gwent, Alun Davies ei fod yn ymddangos bod Mr Corbyn yn "cerdded yn ddall tuag at Brexit Dorïaidd ac ebargofiant gwleidyddol.

"Beth yn y byd ddigwyddodd i adael i'n haelodau benderfynu ar bolisïau a blaenoriaethau?"

'Gall ddatrys yr anghytundeb'

Ond yn ôl AS Aberafan, Stephen Kinnock, sydd wedi bod yn hyrwyddo'r hyn sy'n cael ei gyfeirio ato fel model o bartneriaeth "Norway Plus" gyda'r Undeb Ewropeaidd, mae cynllun Mr Corbyn yn rhywbeth i'w groesawu.

"Gall hyn ddatrys yr anghytundeb," meddai.

Ychwanegodd Mr Kinnock: "Mae hyn hefyd yn herio May am fod yna bosibilrwydd da o sicrhau mwyafrif trawsbleidiol. Yr hyn sydd angen arnom nawr yw ymrwymiad pendant i'r EEA (Ardal Economaidd Ewropeaidd)."

Mae AS Wrecsam, Ian Lucas hefyd wedi dweud bod telerau Mr Corbyn â'r potensial i "ddatrys yr anghytundeb".

'Cefnogaeth ehangach yn bosib'

Yn dilyn cyd-bwyllgor y gweinidogion fore Iau, dywedodd Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles AC, bod datganiad ar y cyd rhwng Prif Weinidogion Cymru a'r Alban "yn dweud yn glir y byddai ymadael heb gytundeb yn drychineb".

Serch hynny, dywedodd Mr Miles: "Pwysleisiais hefyd nad yw'n rhy hwyr i Brif Weinidog y DU ymestyn allan ac ennill cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer ffordd ymlaen o ran Brexit sy'n diogelu swyddi a'r economi.

"Mae'r llythyr y bore yma oddi wrth arweinydd yr wrthblaid yn dangos bod bargen a all gael cefnogaeth ehangach yn bosib pe bai Llywodraeth y DU yn symud ar eu safleoedd llinell goch."

Daw hyn wedi i aelodau cynulliad Llafur Cymru a Phlaid Cymru basio cynnig i alw ar Lywodraeth y DU i baratoi am refferendwm arall ddiwedd mis Ionawr.