Y Cymro welodd Capten Cook yn cael ei ladd
- Cyhoeddwyd
Pan laddwyd Capten Cook yn Hawaii, yr unig un i ddogfennu'r digwyddiad enwog oedd Cymro fu'n gydymaith iddo ar ei fordaith olaf. Nawr mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi prynu llyfr prin iawn gan y gŵr o Sir Ddinbych sy'n disgrifio'r hyn ddigwyddodd.
Meddyg ar fordaith olaf yr arloeswr Capten James Cook oedd David Samwell - neu Dafydd Ddu Feddyg.
Cafodd ei eni yn Nantglyn, Sir Ddinbych, a bu'n feddyg yn y llynges cyn ymuno â mordaith olaf Capten Cook.
Cafodd y capten - y cyntaf o Ewrop i wneud cysylltiad gydag arfordir Dwyrain Awstralia, a'r cyntaf i hwylio o gwmpas Seland Newydd - ei ladd gan frodorion Hawaii yn 1779.
Er bod ansicrwydd o hyd ynglŷn â beth yn union ddigwyddodd, mae'n debyg iddo geisio herwgipio un o arweinwyr y brodorion er mwyn iddyn nhw ddychwelyd cwch oedd wedi ei ddwyn.
Llyfr hanesyddol a phrin iawn
Fe gafodd y cyfan ei gofnodi gan Dafydd Ddu Feddyg yn ei lyfr A narrative of the death of Captain James Cook.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru eisoes yn berchen ar ddau gopi o'r llyfr hwnnw.
Cafodd hefyd ei gyfieithu i'r Ffrangeg, ac erbyn hyn, does ond tri chopi o'r cyfieithiad hwnnw ar gael. Nawr mae un ohonyn nhw yn Aberystwyth.
Mae'r newyddiadurwr Dylan Iorwerth wedi cyflwyno rhaglen deledu ar David Samwell a bu'n trafod arwyddocâd y llyfr ar raglen Radio Cymru Aled Hughes.
"Mewn ffordd ei gofnod o, o be' ddigwyddodd i Capten Cook ydi'r brif ffynhonnell sydd yna am beth ddigwyddodd.
"Doedd o ddim ar y lan ei hun, roedd o yn dal i fod ar y llong.
"Mae'n debyg basa fo wedi gallu gweld rhywfaint trwy delesgop o be' oedd yn digwydd a gallu gweld bod rhywbeth o'i le, ond wedyn mi aeth o ati fel basa fo - roedd o'n foi llawn chwilfrydedd - ac aeth o ati wedyn i holi lot o bobl i drio ffeindio'n union be' ddigwyddodd.
"Wedyn be' 'sgwennodd o mewn ffordd ydi sail bron popeth sydd wedi cael ei sgwennu am farwolaeth Capten Cook wedyn."
Roedd Dafydd Ddu Feddyg yn ddyn lliwgar - yn feddyg ac yn anturiaethwr, ond hefyd yn ymddiddori mewn llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg.
Roedd yn fardd, yn llywydd Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain ac yn adnabod Iolo Morganwg.
Ynghyd â dogfennu marwolaeth Capten Cook, fe ysgrifennodd 140,000 o eiriau am y fordaith a'r rhyfeddodau roedd wedi eu gweld.
Roedd ganddo ddiddordeb mawr ym mywyd y brodorion ac yn cofnodi eu harferion - ond roedd ei agwedd tuag atynt yn gymysg.
Meddai Dylan Iorwerth:
"Mae o wrth ei fodd efo'r bobl frodorol. Mae o'n eu canmol a dweud mor hawddgar ydi nhw, bod dim pobl fwy caredig ar wyneb daear, ond ar yr un pryd mae o'n eu condemnio nhw fel paganiaid.
"Ac mae'r ffordd roedden nhw'n trin merched brodorol i'n llygaid ni yn frawychus, yn mynd yno gan fwriadu manteisio.
"Mae David Samuel yn brolio am hynny ac yn dweud bod ganddo lot o blant yn Haiti ac roedd ganddo fo gerdd lle'r oedd wedi sôn 'We peopled more than half the isle with Welsh and Saxon blades'".
Ysgrifennu am syrffio yn y 18ed ganrif
Ond fe fuodd hefyd yn cofnodi am y tro cyntaf nifer o bethau oedd yn ddieithr iawn i'r Ewropeaid - yn cynnwys syrffio.
"Mae'n anodd credu bod 'na neb arall wedi cofnodi'r peth achos roedden nhw - fel pobl wynion - yn dod o hyd i'r llefydd yma am y tro cyntaf.
"Roedd o wedi rhyfeddu at y gamp yma, o bobl ifanc yn mynd ar planc o bren ac yn hwylio'r tonnau anferth yma.
"Roedd hi'n gamp fawr yn Hawaii - camp y brenhinoedd - ac roedd statws yn cael ei fynegi trwy ba mor hir oedd y bwrdd syrffio oedd ganddoch chi.
"Ac yn ôl un arbenigwr, Dafydd Ddu Feddyg oedd y cyntaf i gofnodi go iawn ganeuon rhai o'r Māori draw yn Seland Newydd."
Hefyd o ddiddordeb: