Gethin Jones: Y gwir am y merched yn y penawdau

  • Cyhoeddwyd

Mae bywyd carwriaethol y cyflwynydd Gethin Jones wedi bod yn y penawdau yn gyson dros y blynyddoedd - ond mae'r wasg o hyd yn ei gysylltu gyda'r merched anghywir, meddai.

Mae'r cyflwynydd o Gaerdydd, ddaeth i enwogrwydd gyda Blue Peter a Strictly Come Dancing, wedi bod yn trafod ei fywyd ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul.

Mewn cyfweliad i gyd-fynd â'i ben-blwydd yn 41, mae o hefyd yn sôn bod gweithio yn y byd teledu yn Lloegr yn haws nag yng Nghymru ac yn dweud mai ei freuddwyd ydi sefydlu ysgol i blant gydag awtistiaeth.

Disgrifiad,

Y cyflwynydd radio a theledu o Gaerdydd oedd gwestai'r bore

Wrth drafod diddordeb y wasg yn ei fywyd carwriaethol, meddai Gethin:

"Be' sy'n od yw, dyw ddim un ohonyn nhw'n wir. Mae'r enwau maen nhw'n rhoi yn y wasg, wel nid dyna'r merched dwi wedi bod mas gyda nhw... ffrindiau mawr ydi nhw.

"Unwaith, ar yr un pryd rhai o'r penawdau] o'n i'n mynd mas gydag actores eitha enwog - wel enwog iawn - yn America ac roedd hi'n gofyn i mi 'pwy yw'r merched yma?'... a ddudes i 'wel 'sai'n gwybod'. Y jôc oedd doedd y wasg ddim yn gwybod bod fi'n mynd mas gyda hi!

"Mae o bach yn od achos dwi'n fachgen o Gaerdydd a sgen i ddim byd i guddio. Ambell waith dwi'n meddwl 'wel beth yw'r big deal'?

"Mae mates fi'n tecstio fi, a'r grŵp Whatsapp yn mynd yn mad, a fi'n meddwl 'bois, na na'."

Ffynhonnell y llun, David M. Benett

Y sïon am Cheryl

Yn ddiweddar bu'r cyfryngau'n llawn o sïon amdano ef a Cheryl (gynt o'r band Girls Aloud).

Roedd y ddau wedi cyfarfod pan oedd o'n ei chyfweld ar gyfer ei raglen ar Hits Radio.

Rhoddodd lun o'r ddau ohonyn nhw ar ei gyfrif Instagram, wnaeth arwain at benawdau a sylwadau di-ri.

Hefyd efallai o ddiddordeb:

Meddai: "Nes i gyfweld â Cheryl ac roedd hi'n hyfryd... a be' sy'n od efo hi ydy, chi'n cyfarfod rhywun a chi'n meddwl 'mae hi'n neis' ond mae hi mor enwog mae popeth mae hi'n 'neud yn cael sylwad neu mae'r wasg eisiau gwybod amdano fe. Wedyn mae'n anodd iawn i greu unrhywbeth naturiol gyda rhywun, achos y wasg neu'r social media sy'n rhan ohono fe...

"Oedd e ddim bod fi ddim wedi gwrthod, na, ond bach mwy cymhleth na hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Gethin Jones yn enw cyfarwydd ar draws Prydain ar ôl dod yn drydydd yn Strictly yn 2007

Haws cael gwaith yn Lloegr

Fe ddechreuodd Gethin Jones ei yrfa ar S4C yn cyflwyno Popty gydag Alex Jones a Sarra Elgan.

Mae'r tri wedi mynd yn eu blaenau i gyflwyno rhaglenni poblogaidd yn Lloegr, lle mae'r gwaith yn rhwyddach yn ôl Gethin.

Meddai: "Be' sy'n od gyda darlledu yng Nghymru yw'r cyfleodd a pha mor anodd ydi hi i'w gwneud hi yng Nghymru i gymharu â beth yw e yn Lloegr.

"Mae Alex nawr yn neud y job hawsa' mae hi erioed wedi 'neud. Dim ond am chwe munud - neu bump weithiau - maen nhw'n fyw ar y One Show, ond mae Alex wedi 'neud Eisteddfodau, mae hi wedi gwneud sioeau gyda fi oedd yn hollol fyw am ddwy neu dair awr.

"Sarra 'run peth - roedd hi'n neud y Saturday Show ar BBC ac roedd hi'n ffeindio fe'n hawdd achos roedd hi wedi cael fel y graduation yma ar S4C.

"A fi'n siŵr bod lot yn dweud pam wnaetho chi adael? Pam wnaetho chi ddim aros i neud y gwaith fan hyn? Wel doedd dim digon o waith.

"A wedyn, pam fyddet ti ddim yn mynd am job ar y One Show neu fel Sarra nawr yn neud y rygbi neu fi'n 'neud Blue Peter?"

Disgrifiad o’r llun,

Albi a'i ewythr Gethin

A'i uchelgais mewn bywyd? Datblygu'r elusen Nai, wnaeth o sefydlu dwy flynedd yn ôl gyda'i ffrind oherwydd fod gan y ddau ohonyn nhw nai awtistig.

Y bwriad yn y pendraw ydi sefydlu ysgol arbennig i blant gydag awtistiaeth.

Meddai Gethin Jones am ei nai: "Mae e'n amazing - ffrind gorau - o'n i ddim yn gwybod bod chi'n gallu caru rhywun gymaint â be' fi'n caru Albi."