Disgwyl 20,000 o gefnogwyr rali yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i fwy na 20,000 o ddilynwyr ralio ymweld â gogledd Cymru ddydd Sadwrn ar gyfer cystadleuaeth Rali Cambrian.
Mae'r cyfan yn dechrau yn Llandudno ar gyfer rownd gyntaf pencampwriaeth Rali Prydain.
Cymal Cambrian yw'r unig gymal yng Nghymru.
Mae Cambrian wedi bod mewn bodolaeth ers 64 o flynyddoedd, ond dyma'r tro cyntaf iddo gael ei ddewis fel un o gymalau Rali Prydain.
Ar ôl dechrau ar bromenâd Llandudno, mae yna gymalau yn fforestydd Eryri, yn ogystal â siroedd Conwy a Dinbych.
Dywedodd Matt Edwards o Fae Colwyn, a phencampwr Motrosport UK 2018, fod y trefnwyr wedi "gweithio yn galed am nifer o flynyddoedd i sefydlu'r bencampwriaeth".
"Mae hwn yn wych ar gyfer proffil Llandudno ac ar gyfer yr ardal gyfan," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd31 Mai 2016