Prifysgol Bangor yn ceisio bod yn Dementia Gyfeillgar

  • Cyhoeddwyd
Grwp LlywioFfynhonnell y llun, Mirain Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r grŵp llywio wedi bod yn gweithio'n galed ers misoedd i geisio sicrhau statws Dementia Gyfeillgar i'r brifysgol

Mae myfyrwyr a staff ym Mangor wedi bod yn gweithio'n galed ar y cyd er mwyn ceisio sicrhau statws Dementia Gyfeillgar i'r brifysgol.

Ers misoedd mae'r grŵp wedi bod yn rhoi pwyslais ar sicrhau fod gwaith y brifysgol yn cwrdd ag anghenion unigolion sydd yn byw gyda dementia.

Mae'r fenter wedi derbyn sêl bendith gan gorff gweithredol y brifysgol ac o ganlyniad bydd cyfres o weithgareddau yn cael eu trefnu.

Dywedodd Mirain Llwyd sy'n fyfyrwraig ac yn aelod o'r grŵp llywio fod y gwaith yn "hynod bwysig."

'Dysgu eraill'

Ym mis Ionawr lansiwyd 'Heneiddio a Dementia @Bangor' sef hwb ar gyfer rhagoriaeth ymchwil a dysgu yn ymwneud â dementia yn yr Ysgol Gofal Iechyd.

Mae'r hwb yn cael ei arwain gan yr Athro Gill Windle a Dr Sion Williams, sef dau sydd yn rhagori yn y maes ac yn arwain tîm o ymchwilwyr ac addysgwyr.

Ychwanegodd Ms Llwyd: "Mae'n braf cael cynnal sesiynau Ffrindiau Dementia i ddysgu eraill ychydig am dementia.

"Edrychaf ymlaen i gynorthwyo'r brifysgol i gyrraedd y nod hwn gan y teimlaf ei fod yn hynod bwysig," meddai

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Yr Athro Jerry Hunter fod y datblygiad yn "hynod bwysig ac un sy'n cyd-fynd ag ethos a gweledigaeth Prifysgol Bangor"

Mae tri amcan wedi'u llunio gan y grŵp:

  • Hyrwyddo iechyd, ansawdd bywyd a lles pobl hŷn, pobl gyda dementia a'u gofalwyr;

  • gwella ansawdd y gofal a'r gwasanaethau;

  • sicrhau fod llais y cleifion a'r cyhoedd yn graidd i'r gwaith.

Mae Prifysgol Bangor hefyd yn un o dair prifysgol yng Nghymru sydd yn arwain yn y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR) - canolfan ymchwil sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sydd yn gweithio i wella ansawdd bywyd pobl hŷn drwy ymchwil, polisïau ac arferion.

Mae Undeb Prifysgol Bangor hefyd wedi bod yn gefnogol drwy drefnu sesiynau i hyfforddi myfyrwyr a staff i fod yn Ffrindiau Dementia yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth.

Gallai myfyrwyr gael cyfle i wirfoddoli ar ward dementia yn Ysbyty Gwynedd sydd yn rhoi'r cyfle iddyn nhw ddod yn fwy cyfarwydd â'r cyflwr.

'Brwdfrydedd'

Dywedodd Dr Catrin Hedd Jones, Darlithydd mewn astudiaethau Dementia a Cadeirydd y Grŵp Llywio."Mae'n wych gweld yr holl weithgaredd a brwdfrydedd ymysg y myfyrwyr a'r staff tuag gwella ein dealltwriaeth o ddementia ac mae'n fraint cael arwain y grŵp llywio i gyrraedd y nod arbennig hwn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Undeb Myfyrwyr yn cynnig hyfforddiant ar sut i fod yn Ffrindiau Dementia

Dywedodd Is-ganghellor y Gymraeg a'r Gymuned, Prifysgol Bangor, Yr Athro Jerry Hunter: "Mae'r datblygiad hwn yn hynod bwysig ac un sy'n cyd-fynd ag ethos a gweledigaeth Prifysgol Bangor.

"O gofio hanes y gwaith da ym maes gofal dementia sydd wedi digwydd yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol dros y blynyddoedd, ac o gofio holl waith Pontio ym maes dementia a'r celfyddydau, dyma gam naturiol i Fangor ac un i'w groesawu'n fawr," meddai.

Bellach, mae'r grŵp yn disgwyl i'r Gymdeithas Alzeimer's arolygu'r gweithgareddau sydd wedi'u trefnu er mwyn asesu os ydyn nhw'n cydymffurfio â'r canllawiau cyn i'r Brifysgol dderbyn y statws.