Tân yn difrodi tafarn Bessie yng Nghwm Gwaun
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin wedi cadarnhau eu bod wedi cael eu galw i ddiffodd tân yn nhafarn y Dyffryn Arms brynhawn Sul.
Mae'r dafarn yn cael ei hadnabod fel "Tafarn Bessie" ac wrth siarad â Cymru Fyw nos Sul cadarnhaodd ei hwyres bod y tân wedi difrodi'r dafarn ac y bydd y dafarn ar gau yn y dyfodol agos.
Ychwanegodd Gaynor Lewis bod ei mam-gu sy'n 88 oed wedi cael sioc ond ei bod hi'n iawn wedi tân yn y dafarn amser cinio.
"Mae'n rhy gloi eto i wybod beth oedd achos y tân ond mae mam-gu yn iawn er ei bod wedi cael sioc," meddai.
"Bydd y lle ar gau am y tro nes bod ni'n gweld be sydd wedi digwydd."
Daeth criwiau o Abergwaun a Hwlffordd i ddiffodd y tân ac mae llefarydd wedi cadarnhau bod difrod sylweddol wedi ei wneud i du fewn yr adeilad a bod un ci wedi marw.
Mae nifer o bobl o bell ac agos wedi anfon negeseuon o gefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
'Newyddion trist'
Dywedodd Lillwen McAllister sy'n cadw lle gwely a brecwast o fewn milltir i'r dafarn nad oedd hi'n gwybod rhyw lawer ond bod hi wedi cael sioc fawr wedi iddi glywed am y tân.
"Mae'n dda fod pawb yn saff, mae Bessie yn gymaint o gymeriad."
"Ydy wir mae'n newyddion trist iawn iawn - wi'n meddwl amdani druan."
Mewn cyfweliad â'r BBC yn 2017 dywedodd Bessie Davies ei bod yn "joio bob diwrnod o fod yn y dafarn".
Ychwanegodd ei bod wastad yn croesawu pawb yno a bod y "locals yn siarad â phawb" a ddeuai i stafell ffrynt y Dyffryn Arms.
Fe ddaeth y dafarn yn enwog am ei dull hen ffasiwn o weini cwrw - doedd na ddim cerddoriaeth ac roedd disgwyl i bawb gymdeithasu wrth yfed yn y stafell ffrynt.
Mae Bessie Davies wedi bod yn berchen ar y dafarn ers 1970 ond roedd hi wedi dechrau gweithio yno dros 20 mlynedd cyn hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2015