Prifysgol Abertawe: Gwahardd pumed aelod o staff

  • Cyhoeddwyd
Pentref Llesiant LlanelliFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i gynllun Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant yn Llanelli greu hyd at 2,000 o swyddi

Mae Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau eu bod wedi gwahardd pumed aelod o staff.

Daw gwaharddiad Paul Roberts yn dilyn honiadau fod gwaharddiadau pedwar aelod arall o staff wedi'u cysylltu â phrosiect gwerth £200m yn Llanelli.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, fod yr ymchwiliad yn ymwneud â phryder am y cynllun Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant.

Mr Roberts ydy arweinydd datblygiad rhanbarthol iechyd a lles Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Mewn e-bost at y brifysgol, dywedodd Mr Roberts ei fod wedi ei gamarwain am y rhesymau dros gynnal y cyfarfod lle gafodd wybod am ei waharddiad.

Dywedodd Mr Roberts hefyd ei fod wedi bod yn "gweithio o dan hinsawdd o ofn ers gwaharddiad ei gydweithwyr ym mis Tachwedd y llynedd".

Mae'r BBC wedi gofyn i Brifysgol Abertawe am eu hymateb i sylwadau Mr Roberts.

Cafodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies, a Deon yr Ysgol Reolaeth, yr Athro Marc Clement, ynghyd â dau aelod arall o staff, eu gwahardd ym mis Tachwedd.

Mae'r Athro Davies a'r Athro Clement wedi'u gwahardd ar gyflog llawn, ond dyw'r brifysgol ddim wedi dweud pam fod unrhyw aelod o staff wedi'u gwahardd.

Mae'r ddau yn gwadu'r honiadau yn eu herbyn.

'Codi cwestiynau difrifol'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe: "Gallwn gadarnhau bod aelod arall o staff wedi ei wahardd fel rhan o'n hymchwiliad mewnol.

"Ni allwn wneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Richard B Davies wedi bod yn is-ganghellor y brifysgol ers 2003

Dywedodd Peter Black, cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghwmbwrla, ei fod yn bryderus fod yr ymchwiliad yn ymddangos fel ei fod yn lledaenu.

Dywedodd fod hyn yn codi cwestiynau difrifol am y cyngor yn parhau i weithio gyda'r brifysgol fel partner mewn prosiectau sy'n gysylltiedig â chynllun £1.3bn Dinas Ranbarth Bae Abertawe.

Ond yn ôl arweinydd y cyngor, Mr Stewart, mae sylwadau Mr Black yn "anghywir" ac y byddai ymchwiliad arall - gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gynllun dinas Bae Abertawe - yn cyhoeddi ei ganfyddiadau yn yr wythnosau nesaf.