UEFA yn cadarnhau mai yn Osijek fydd gêm Croatia v Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae UEFA wedi cadarnhau bydd y gêm ragbrofol Euro 2020 rhwng Croatia a Chymru yn cael ei chynnal yn Osijek.
Mae yna ddryswch wedi bod ynglŷn â'r gêm wedi i gymdeithas bêl-droed Croatia (HNS) gyhoeddi'n wreiddiol mai yn Osijek y byddai'r gêm yn cael ei chynnal ar 8 Mehefin.
Ond roedd yna oedi o ran penderfynu ar y lleoliad yn derfynol wrth i HNS ddisgwyl i gynrychiolwyr UEFA archwilio Stadion Gradski.
Roedd nifer o gefnogwyr Cymru eisoes wedi gwneud trefniadau teithio, gyda sawl un yn teimlo'n rhwystredig iawn am yr oedi.
Y tro diwethaf i Gymru chwarae yn Osijek oedd yn 2012. Bryd hynny roedd nifer o gwynion ymysg y chwaraewyr ynglŷn â chyflwr y cae, gyda'r capten Ashley Williams yn dweud fod yr amodau'n "warthus".
Croatia fydd trydydd gwrthwynebydd Cymru yn yr ymgyrch ragbrofol, a bydd tîm Ryan Giggs hefyd yn chwarae yn erbyn Slofacia, Hwngari ac Azerbaijan.

Mae CYmru wedi chwarae yn Stadion Gradski yn Osijek ar ddau achlysur yn ddiweddar yn 2010 a 2012
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2019