Euro 2020: Cymru i wynebu Croatia, Slofacia a Hwngari

  • Cyhoeddwyd
Euro 2020Ffynhonnell y llun, Uefa

Bydd Cymru yn chwarae yn yr un grŵp â Chroatia, Slofacia, Hwngari a Azerbaijan yn rownd rhagbrofol E ar gyfer Euro 2020.

Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het ar gyfer grwpiau rhagbrofol Euro 2020 mewn digwyddiad yn Nulyn ddydd Sul.

Mae 55 o dimau yn mynd i fod yn ceisio bod yn un o'r 24 tîm sy'n cyrraedd y rowndiau terfynol yn 2020, ac yn wahanol i'r drefn dros y blynyddoedd diweddar fe fydd y rowndiau terfynol yn cael eu cynnal mewn 12 dinas ar draws Ewrop, gan gynnwys Dulyn.

Mae'r broses o gyrraedd y rowndiau terfynol yn fwy cymhleth nag arfer hefyd, yn rhannol oherwydd dyfodiad Cynghrair y Cenhedloedd, ond mae'r sylfaen yn ddigon cyfarwydd yn y dechrau.

Bydd y 55 tîm yn cael eu rhannu'n 10 grŵp - pum grŵp o bum tîm a phum grŵp o chwe thîm - ac fe fydd y ddau dîm uchaf ymhob grŵp yn cymryd yr 20 lle cyntaf yn y rowndiau terfynol.

Bydd y pedwar lle arall yn cael eu rhoi i dimau sy'n dod drwy'r gemau ail gyfle ym mis Mawrth 2020, ond safle'r timau yng Nghynghrair y Cenhedloedd, yn hytrach na'r rowndiau rhagbrofol, fydd yn penderfynu pwy fydd yn y gemau ail gyfle.

Dyma fydd y tro cyntaf ers 1976 lle na fydd gwlad yn cael lle yn y gystadleuaeth fel y wlad sy'n ei chynnal.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Gôl rhif 30 Gareth Bale dros ei wlad yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd

Pot Cynghrair y Cenhedloedd: Mae'r pedwar tîm sydd wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cynghrair y Cenhedloedd - Y Swistir*, Portiwgal*, ★Yr Iseldiroedd* a ★Lloegr* - yn sicr o fod mewn grŵp o bum tîm. Mae hynny er mwyn iddyn nhw gael llai o gemau rhagbrofol er mwyn chwarae gemau Cynghrair y Cenhedloedd, ac maen nhw mewn pot ar wahân.

Mae 51 tîm arall wedi eu rhannu mewn potiau yn seiliedig ar eu safle yn rhestr detholion y byd, a dyma sut fydd y potiau'n ymddangos:

Pot 1: Belg, Ffrainc, ★Sbaen, ★Yr Eidal, Croatia, Gwlad Pŵyl;

Pot 2: ★Yr Almaen, Gwlad yr Iâ, Bosnia-Herzegovina*, Wcrain*, ★Denmarc*, Sweden*, ★Rwsia, Awstria, CYMRU, Y Weriniaeth Siec;

Pot 3: Slofacia, Twrci, ★Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon, ★Yr Alban*, Norwy*, Serbia*, Y Ffindir*, Bwlgaria, Israel;

Pot 4: ★Hwngari, ★Romania, Groeg, Albania, Montenegro, Cyprus, Estonia, Slofenia, Lithwania, Georgia*;

Pot 5: Macedonia*, Kosovo*, Belarus*, Lwcsembwrg, Armenia, ★Azerbaijan, Kazakhstan, Moldofa, Gibraltar, Ynysoedd Ffaro;

Pot 6: Latfia, Leichtenstein, Andorra, Melita, San Marino.

(* yn dynodi timau sydd wedi sicrhau lle yn y gemau ail gyfle drwy Gynghrair y Cenhedloedd er y gallai hynny newid; yn dynodi gwledydd sy'n cynnal gemau yn y rowndiau terfynol.)

Mae yna gyfyngiadau eraill ar bwy sydd yn cael bod mewn grŵp gyda'i gilydd.

Er mwyn rhoi cyfle i bob un o'r 12 gwlad sy'n cynnal gemau Euro 2020 i gyrraedd y rowndiau terfynol, ni fydd mwy na dwy o'r gwledydd hynny yn yr un grŵp.

Am resymau gwleidyddol ni fydd rhai parau o wledydd - megis Wcrain a Rwsia neu Sbaen a Gibraltar - yn cael bod yn yr un grŵp.

Ni fydd mwy na dwy wlad sy'n cael tywydd gaeafol drwg - Belarus, Estonia, Ynysoedd Ffaro, Y Ffindir, Gwlad yr Iâ, Latfia, Lithwania, Norwy, Rwsia Wcrain - yn cael eu gosod yn yr un grŵp.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

I bob pwrpas mae hyn yn golygu fod Cymru ymysg yr ail ddetholion yn y broses rhagbrofol, ac mae disgwyl iddyn nhw felly gyrraedd y rowndiau terfynol drwy orffen yn gyntaf neu ail yn eu grŵp.

Os na fyddan nhw'n llwyddo i wneud hynny, bydd rhaid i dîm Ryan Giggs obeithio bod Denmarc yn mynd yn syth i'r rowndiau terfynol gan y bydd hynny'n golygu y gall Cymru gymryd lle Denmarc yn y gemau ail gyfle.

Gorffennodd Cymru yn ail i Ddenmarc yn eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn ddiweddar.

Bydd y gemau rhagbrofol yn cael eu cynnal dros gyfnod o wyth mis rhwng Mawrth a Thachwedd 2019, gyda'r gemau ail gyfle wedyn ym Mawrth 2020.