Perchnogion yn gorfod atgyweirio hen wyrcws Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Wyrcws
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y wyrcws, gafodd ei adeiladu yn Oes Fictoria, yn arfer bod yn ganolbwynt i derfysgoedd Merched Beca

Fe fydd rhaid i berchnogion hen wyrcws Caerfyrddin fynd ati i gynnal gwaith cynnal a chadw angenrheidiol o fewn 12 mis ar ôl iddyn nhw golli eu hapêl yn erbyn y cyngor sir.

Penderfynodd yr Arolygaeth Gynllunio wrthod apêl Edgar a Jonathan Stephens, tad a mab, yn erbyn gorchymyn gafodd ei osod ar ôl i dân ddifrodi'r adeilad ym mis Mawrth y llynedd.

Mae'r gorchymyn yn galw ar y perchnogion i adfer muriau a ffenestri'r adeilad, sydd o fewn Ardal Gadwraeth Gogledd Caerfyrddin, i'r un safon ac edrychiad ac oedd yn bodoli cyn y tân.

Mae hefyd yn galw am adnewyddu'r to yn gyfan gwbl gan gynnwys llechi, teils crib a gwaith plwm.

Clywodd yr apêl fod y perchnogion wedi prynu'r safle nôl yn 2007 a'u bwriad oedd ei droi'n fflatiau.

Dadl y tad a'r mab oedd bod y gorchymyn gafodd ei osod gan y sir yn "ormodol ac yn rhy feichus o ran costau".

Roedd safle'r wyrcws, gafodd ei adeiladu yn Oes Fictoria, yn arfer bod yn ganolbwynt i derfysgoedd Merched Beca.

Ffynhonnell y llun, Carley Tyler Millard‏

Yn eu tystiolaeth dywedodd y perchnogion eu bod yn credu y byddai "rhoi byrddau pren ar draws yr agoriadau a chael gwared â thrawstiau pren y to yn ddatrysiad derbyniol".

Gwrthod y ddadl wnaeth yr arolygydd cynllunio, Hywel Wyn Jones yn ei adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddiwedd mis Chwefror.

Hwn oedd yr ail orchymyn i'w osod ar yr adeilad gan y cyngor sir, gyda'r un cyntaf yn cael ei osod cyn y tân, gan ofyn i'r perchnogion gadw'r safle mewn cyflwr derbyniol.

Dywedodd Jonathan Stephens eu bod wedi cytuno i gwrdd â'r cyngor sir unwaith eto.

Dywedodd mai un broblem oedd bod y gorchymyn yn galw am ailosod trawstiau, ond o bosib byddai hynny'n golygu mwy o gost i unrhyw ddarpar brynwr.

Dywedodd rheolwr Treftadaeth Adeiledig Cyngor Sir Caerfyrddin, Julian Edwards: "Rydym wedi gosod dau orchymyn yn erbyn y perchnogion yn galw am ystod o waith i'w gwblhau.

"Fe wnaeth yr arolygydd benderfynu fod y ddau orchymyn yn briodol, ond mae wedi caniatáu mwy o amser iddyn nhw i gwrdd â'r gofynion.

"Ers hynny rydym wedi ymweld â'r adeilad. Fe fyddwn yn parhau i weithio gyda'r perchnogion er mwyn eu hatgoffa o'u cyfrifoldebau parthed diogelwch yr adeilad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gofyn i'r perchnogion ailosod trawstiau ar y tro

Mewn datganiad wedi'r gwrandawiad dywedodd Jonathan ac Edgar Stephens: "Am rai blynyddoedd rydym wedi ceisio dod o hyd i ddatblygwr neu bartner i fwrw 'mlaen gyda'r prosiect ond heb lwyddiant.

"Ond jest cyn y tân fe wnaethom ddod o hyd i rywun oedd am brynu'r adeilad ac am gyd-fynd â gofynion y gorchymyn. Fe newidiodd hynny oherwydd y tân," meddai.

Dywed y datganiad fod y gost o ailosod y to yn mynd i fod yn fwy na gwerth yr adeilad.

Gan fod y tân wedi ei gynnau yn fwriadol, noda'r adroddiad na fydd polisi yswiriant yn ysgwyddo'r gost oherwydd bod yr adeilad yn wag ar y pryd.