Pobl Llanelli yn cyfarfod i drafod problemau cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod cyhoeddus Llanelli

Roedd 80 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanelli nos Lun i drafod pryderon am broblemau gwrthgymdeithasol yn y dref.

Cafodd y cyfarfod ei drefnu gan bobl yn ardal Glanymor sy'n poeni am broblemau cyffuriau yno.

Yn ôl y trefnwyr, mae cyfrifoldeb ar gymdeithasau tai a landlordiaid i'w cynorthwyo er mwyn delio â'r broblem.

Union wythnos yn ôl, cafodd heddlu arfog eu galw i'r ardal yn ystod oriau mân y bore yn dilyn adroddiadau fod dyn yn bygwth lladd.

Mae dyn 27 oed bellach wedi ei gyhuddo o fygwth person gydag arf, o fygwth lladd ac o fod â chyffur yn ei feddiant.

Wedi'r digwyddiad hwnnw, cyhoeddwyd y byddai cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal i drafod pryderon trigolion lleol am sawl digwyddiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

'Pobl yn ofnus'

Yn ôl Megan Eatly - mam ifanc sy'n byw a gweithio yng Nglanymor - mae'r sefyllfa'n dorcalonnus.

"Mae pobl yn prynu cyffuriau ar y stryd yng ngolau dydd, 'sdim ots 'da nhw o gwbl," meddai.

"Mae'n warthus bo' rhaid i blant weld pethe' fel hyn. A ma' pobl sy' 'di bod yn byw yma ers 80 mlynedd mor ofnus i fynd i'r siop neu'r siop trin gwallt - mae'n warthus.

"Wythnos diwetha', roedd gyd o'r heddlu i lawr ar Marine Street. Oedd fy mhlentyn yn gofyn, 'pam mae'r heddlu yma yn y bore?'

"Dyw e ddim yn iawn fod plentyn pump oed yn gorfod gweld yr heddlu fel ma' hi ar y funed."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Megan Eatly nad oedd hi am i'w mab pump oed gael ei fagu mewn cymuned ble does yna ddim yn cael ei wneud am y defnydd o gyffuriau yno

Mae Ms Eatly yn credu bod modd troi'r gornel ac yn cydnabod fod yr heddlu wrth law.

Ond nodwyd yn y cyfarfod nos Lun fod pobl leol yn gyndyn i gysylltu â'r heddlu oherwydd ofn y gallai eu teuluoedd ddioddef neu eu cartrefi gael eu difrodi.

Yn ôl y cynghorydd yn ward Glanymor, Sean Rees, mae'r cynnydd yn y grwpiau sy'n dod i'r ardal er mwyn creu anhrefn gwrthgymdeithasol yn hynod o bryderus.

"Ry'n ni i gyd yn gweld yr heriau sy'n ein hwynebu fel cymuned, a hynny bob dydd, ar ein strydoedd, yn ein lonydd cefn, ein parciau chwarae, a mannau cymdeithasol eraill," meddai.

"Ry'n ni wedi gorfod dioddef hyn am sawl blwyddyn bellach.

"Mae angen i gymdeithasau tai a landlordiaid gymryd cyfrifoldeb," ychwanegodd.