Ymgyrch i wahardd ysmygu ger gemau pêl-droed plant

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn ysmyguFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith ASH Cymru ac Ymddiriedolaeth FAW yw dad-normaleiddio ysmygu ger gemau pêl-droed ieuenctid

Mae ymgyrch newydd i annog rhieni i beidio ag ysmygu yn ystod gemau ieuenctid yn cael ei lansio yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Bydd ASH Cymru ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwahardd ysmygu ger y cae chwarae ac yn rhannu gwybodaeth gyda rhieni.

Bwriad yr ymgyrch yw annog rhieni i wylio'r gemau heb ysmygu a lleihau effaith mwg ail law ar blant.

Yn ogystal â hynny, y gobaith yw dad-normaleiddio ysmygu, gydag ymchwil yn dangos bod plant sy'n gweld pobl yn ysmygu yn fwy tebygol o ysmygu eu hunain.

Os bydd y peilot yn Rhondda Cynon Taf yn llwyddiannus, y gobaith wedyn yw cyflwyno'r gwaharddiad ymhob gêm gan dimau ieuenctid ledled Cymru.

Dangosodd ymchwil ASH Cymru bod rhieni'n ysmygu ger y cae chwarae yn broblem roedd nifer o glybiau pêl-droed ieuenctid yn ei wynebu, gyda phobl mewn ardaloedd difreintiedig yn enwedig yn fwy tebygol o ysmygu.

Yn ôl eu hystadegau, roedd 20% o oedolion Rhondda Cynon Taf - lle mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno gyntaf - yn ysmygu.

'Rhieni'n ddylanwad mawr ar blant'

Dywedodd prif swyddog gweithredol ASH Cymru, Suzanne Cass, bod yr ymgyrch Chwaraeon Di-fwg yn "anelu i rannu'r neges gyda rhieni a phobl ifanc am effaith niweidiol mwg ail-law a phwysigrwydd dad-normaleiddio ysmygu".

"Mae gweithio gydag Ymddiriedolaeth FAW yn gyfle ffantastig i rannu ein neges i gannoedd o rieni a'u plant mewn awyrgylch sydd eisoes yn hyrwyddo ymddygiad iach," meddai.

"Mae plant yn dueddol o ddynwared beth maent yn ei weld ac yn cael eu dylanwadu'n gryf gan ymddygiad eu rhieni a gofalwyr, felly mae gofyn i rieni beidio ysmygu ar ochr y cae yn gallu cael effaith ar blant yn penderfynu ysmygu eu hunain wrth dyfu'n hŷn."