Cyhoeddi ysgol gynradd Gymraeg newydd ar gyfer Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg yn y ddinas.
Yn dilyn gwaith adnewyddu, bydd yr ysgol newydd yn cael ei sefydlu ar safle presennol Ysgol Gynradd Pilgwenlli ym mis Medi 2022.
Bydd bron £6 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn yr ysgol Gymraeg newydd a dwy ysgol arall yng ngorllewin y ddinas.
Dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, Debbie Wilcox: "Fe wnaethom ymrwymiad i ehangu a gwella'r cyfleoedd i gael addysg Gymraeg yng Nghasnewydd ac rydym yn cyflawni'r addewid hwnnw."
'Llawn cyffro'
Golygai'r ysgol newydd fod nifer y lleoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg ar draws y ddinas yn cynyddu 50%.
Mae'r ysgol newydd yn rhan o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y cyngor sy'n cynnwys ymrwymiad i ehangu'r ddarpariaeth gynradd.
Ychwanegodd Ms Wilcox: "Rydym wedi gweld enghreifftiau o addysg Gymraeg ardderchog yng nghymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, megis yn Butetown, Caerdydd, ac rydw i'n llawn cyffro o fod yn datblygu hyn yng Nghasnewydd.
"Byddai ehangu Ysgol Gynradd Pilgwenlli hefyd yn amhrisiadwy o ran bodloni anghenion y gymuned leol a gwella addysg a phresenoldeb drwyddo draw."
Bydd gan yr ysgol newydd ar safle Pilgwenlli dau ddosbarth mynediad gydag uned drochi a chanolfan adnoddau dysgu.
Hefyd cynigir y bydd egin ysgol yn cael ei sefydlu o fis Medi 2020 yn yr adeilad babanod gwag yn Caerleon Lodge Hill.
Byddai arian hefyd yn cael ei fuddsoddi yn Ysgol Gynradd Parc Tredegar, gan ei chynyddu i ysgol â dau ddosbarth mynediad a hanner.
Cyn y gwneir penderfyniad terfynol ar y cynigion, caiff ymgynghoriad ffurfiol ei gynnal i alluogi'r holl bartïon â diddordeb wneud sylwadau arnynt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2016