Cyhoeddi enillwyr dwy o fedalau'r Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Bydd enillwyr y ddwy fedal yn cael eu hanrhydeddu ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr Eisteddfod eleni ym mis Awst

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau enillwyr Medal Goffa Syr TH Parry-Williams a'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg.

Falyri Jenkins o Dal-y-Bont, Ceredigion, sy'n derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams.

Mae'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn cael ei rhoi i Twm Elias o Nebo, ger Caernarfon, am ei gyfraniad oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yng Nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod fore Sadwrn, a bydd yr enillwyr yn cael eu hanrhydeddu ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod y brifwyl eleni.

'Athrawes o'r radd flaenaf'

Mae Medal Goffa TH Parry-Williams yn cael ei chyflwyno'n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, yn enwedig wrth weithio gyda phobl ifanc.

O Sling ger Bethesda'n wreiddiol, dechreuodd Falyri Jenkins ei gyrfa ym myd addysg yn Wrecsam, a symud i Dal-y-bont yn 1978.

Disgrifiodd ei chydweithwyr hi fel "athrawes o'r radd flaenaf".

Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Cafodd nifer fawr o blant a phobl ifanc ei bro eu hysbrydoli gan Falyri, yn enwedig ym maes cerddoriaeth, wrth iddi hyfforddi unawdwyr, partïon, corau ac offerynwyr lu am flynyddoedd lawer."

Yn ogystal â'r gwaith hyfforddi, mae Falyri'n awdur sawl llyfr cerddoriaeth, gan gynnwys 'Caneuon Bys a Bawd' a 'Clap a Chân i Dduw'.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Falyri Jenkins yn derbyn Medal Goffa TH Parry-Williams am ei gwaith yn cefnogi pobl ifanc ei bro

Mae hi hefyd wedi bod yn weithgar wrth gefnogi gwaith ieuenctid yn Ysgol Sul Bethel, yn gwirfoddoli gyda'r Cylch Meithrin a chyd-weithio gyda'r Clwb Ieuenctid Cristnogol.

Mae'n cyd-olygu'r papur bro lleol yn Nhal-y-bont, Papur Pawb, gyda'i gŵr Gwyn, ac yn dal i weithio ar rifyn misol bob blwyddyn, gan sicrhau adran wedi'i neilltuo i weithgareddau plant a phobl ifanc.

Dywedodd yr Eisteddfod bod ei "brwdfrydedd a'i chyfraniad yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr TH Parry-Williams".

'Neb tebyg'

Twm Elias o Nebo, yng Ngwynedd, sy'n derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni.

"Does neb tebyg i Twm Elias," meddai'r Eisteddfod, gan gyfeirio ato fel darlledwr medrus ac awdur erthyglau bywiog am wyddoniaeth a byd natur.

Aeth i astudio Llysieueg Amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor, cyn parhau gydag astudiaethau ôl-radd yno ac ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bu'n gweithio fel darlithydd maes ym Mhlas Tan y Bwlch, Canolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri, tan iddo ymddeol yn 2014.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Twm Elias yn gyfrannydd cyson i raglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru

Fe oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas Edward Llwyd, ac mae'n parhau'n ysgrifennydd i Gymdeithas Llafar Gwlad ers ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl.

Cymrodd rôl flaenllaw hefyd yn cyfrannu i gymdeithasau fel Cymdeithas Gwaith Maes ar gyfer ysgolion a Phartneriaeth Garddio Bywyd Gwyllt Eryri.

Yn ogystal, cyfrannodd at chwe chyfrol o 'Blodau Cymru' a phedwar o 'Enwau Creaduriaid a Phlanhigion' ar y cyd gyda'r arbenigwr Duncan Brown.

Yn ôl yr Eisteddfod: "Does dim dwywaith bod cyfraniad Twm Elias i faes bywydeg a natur yng Nghymru wedi bod yn enfawr dros y blynyddoedd, ac mae'n llawn haeddu cael ei anrhydeddu gan yr Eisteddfod Genedlaethol eleni."