Y Gymraes sy'n gweithio ar un o brosiectau ynni mwya'r byd

  • Cyhoeddwyd
Ann Davies ar ffynnon olewFfynhonnell y llun, BP
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann Davies wedi byw yn Norwy, Canada, Llundain a nawr Azerbaijan

Mae Cymraes o'r gogledd yn gyfrifol am dîm o beirianwyr sy'n rhan o un o brosiectau ynni mwya'r byd.

Mae Ann Davies yn byw yn Azerbaijan ac mae hi'n ran o dîm enfawr sy'n ceisio dod â nwy naturiol o Asia i Ewrop drwy bibell 1000 milltir o hyd.

Bwriad prosiect $60bn BP yw creu cyfres o bibellau fydd yn dod â nwy i farchnadoedd Ewrop yn uniongyrchol - heb fynd drwy Rwsia.

Mae Ann yn arwain tîm o 17 cenedl wahanol sy'n ceisio tynnu'r deunydd crai o Fôr Caspia.

Mae hi'n dod o Gricieth yn wreiddiol, ac bu'n sôn am ei gwaith yn Azerbaijan ar raglen Gari Wyn ar BBC Radio Cymru.

"Efo'r wyth rig 'da ni'n rhedeg yn y Caspian,fi sy'n gyfrifol am adeiladu'r ffynhonnau - yr oil wells, gas wells - yn saff, ac mewn ffordd sy'n gallu cymryd yr olew neu'r nwy o'r ddaear ac i fyny trwy'r system prosesu.

"Mae gen i dîm o 40 o beirianwyr, y rhan fwyaf yn Baku a rhai yn Llundain hefyd.

"Mae'n rhan o brosiect i gael pibellau ar draws y mynyddoedd trwy Georgia, Twrci a fydd yn landio yn y diwedd yn yr Eidal.

"Dwi'n meddwl bod o'n un o'r prosiectau mwya yn y byd sydd ddim yn military.

"Dwi efo'r tîm sy'n adeiladu'r ffynhonnau - felly 'da ni reit ar y dechrau, yn mynd dan ddaear ac adeiladu be' 'da ni'n galw'n gaswell i gymryd y nwy o'r ddaear i fyny trwy system sydd wedyn yn mynd i'r beipen.

"'Da ni'n delio efo pwysedd sy'n 10,000psi a 'da ni'n gorfod gwneud y design i gynhyrchu'r nwy yma mewn ffordd saff ac mewn ffordd reliable."

Ffynhonnell y llun, BP
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r platfformau ym Môr y Gogledd lle bu Ann Davies yn gweithio

Roedd diddordeb Ann mewn gwyddoniaeth yn amlwg tra'n ddisgybl yn Ysgol Eifionydd.

Ei uchelgais oedd mynd i'r gofod ac enillodd wobr ar y rhaglen deledu Tomorrow's World i gael profiad yn hyfforddi fel gofodwr yng Ngwlad Belg. Ond ar ôl graddio mewn ffiseg o Rydychen yn 2005 ymchwil o dan y ddaear aeth â'i bryd.

Bu'n gweithio ar blatfformau olew yn Môr y Gogledd am gyfnod, ac mae wedi byw a gweithio yng Nghanada a Norwy.

Ar ôl cyfnod yn Llundain, yn dysgu am ochr busnes y cwmni, symudodd hi a'i gŵr a'u dau o blant i Baku, prifddinas Azerbaijan.

Ffynhonnell y llun, BP
Disgrifiad o’r llun,

Ann Davies ar leoliad ym Môr y Gogledd. Canran isel o ferched sy'n gweithio o fewn y diwydiant.

Mae hi'n gweithio mewn diwydiant lle nad oes llawer iawn o ferched, ond tydi hynny ddim wedi amharu arni.

Meddai: "O'n i wedi arfer bod o gwmpas dynion trwy astudio ffiseg - dim ond 15% o'r myfyrwyr oedd yn gwneud ffiseg oedd yn ferched ac wedyn pan nes i ymuno efo BP fel engineer,roedd o rywbeth tebyg.

"Wedyn pan oeddwn i'n mynd offshore weithia' fi oedd yr unig ddynes. Be' faswn i'n ddweud ydi bod parch yn bwysig iawn.

"Weithiau mae assumptions yn cael eu gwneud pan dwi'n mynd offshore. Weithiau maen nhw'n meddwl mai fi sy'n ll'nau ac wedyn maen nhw'n ffeindio allan mai fi ydi'r bos...

"Weithiau os tydi nhw ddim yn adnabod fi neu pan dwi'n cerdded fewn am y tro cyntaf ella bod rhai yn cael ychydig o sioc ac mae pobl efo dychymyg gwahanol o be' ydi engineering manager.

"Ond dwi'n gadael i ngwaith i siarad amdana fi, label ydi o - ac ma'n disgyn i ffwrdd. Mae pobl yn adnabod fi fel fi fy hun, a dwi'n cael y parch."

Hefyd o ddiddordeb: