Wal 'Cofiwch Dryweryn' wedi ei hailadeiladu
- Cyhoeddwyd
Mae rhan o wal 'Cofiwch Dryweryn' ger Llanrhystud gafodd ei chwalu gan fandaliaid wedi ei hailadeiladu gan wirfoddolwyr.
Daw'r difrod diweddaraf ddiwrnod yn unig ar ôl i rywun baentio y gair 'Agari' ar y wal.
Mae'r arwydd wedi bod yn amlwg i deithwyr ar hyd ffordd yr A487 rhwng Aberystwyth a Llanrhystud ers iddo gael ei baentio yn y 1960au.
Mae'r 'gofeb' wedi ei ail-baentio sawl gwaith - ond nawr mae rhan o'r wal wedi ei chwalu.
Erbyn pnawn dydd Sadwrn roedd criw o wirfoddolwyr wedi mynd ati i ailadeiladu'r wal.
Fe wnaeth AC Ceredigion Elin Jones ddweud fod y weithred ddiweddara yn warth.
Dywedodd yr arolygydd Chris Fraser o Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio a'u bod yn apelio am wybodaeth.
"Rwy'n deall fod yna deimladau cryf am wal Cofiwch Dryweryn, a bod y difrod sydd wedi cael ei wneud ar sawl achlysur yn achosi ypset yn y gymuned.
"Rwyf eisiau rhoi sicrwydd ein bod yn cymryd y mater yn hynod ddifrifol, ac y bydd yna ymchwiliad llawn i'r difrod dibwrpas yma."
Dywedodd llefarydd ar ran Cadw, corff llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddiogelu amgylchedd hanesyddol, eu bod eisoes wedi cynnal cyfarfod 'adeiladol' gyda Chyngor Cymuned Llanrhystud am ddyfodol Wal Cofiwch Dryweryn.
"Derbyniwyd yn y cyfarfod na allai restru'r safle ei warchod yn y ffordd sydd ei hangen yn yr achos hwn ac y byddai hynny, mewn gwirionedd, yn ei gwneud yn anos i'w reoli yn y dyfodol.
"Mae angen ateb gwreiddiol a gwahanol a bydd Cyngor Cymuned Llanrhystud yn mynd ati bellach i ystyried ffyrdd o gydweithio â phartneriaid, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i lunio cynllun rheoli hirdymor ar gyfer y safle hwn."
Ym mis Chwefror cafodd enw Elvis gyda chalon mewn lliw gwyn dros gefndir du ei baentio ar y wal.
Ers y digwyddiad hwnnw mae Llywodraeth Cymru wedi trafod y posibilrwydd o ychwanegu'r murlun at restr o gofebion Llywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar y pryd eu bod yn barodi i drafod "er mwyn gwella'r ffordd y mae'r safle'n cael ei ddehongli a'i warchod".
Cafodd graffiti 'Cofiwch Dryweryn' ei baentio yn y lle cyntaf yn y 1960au gan y diweddar ysgolhaig Meic Stephens.
Mae'n cyfeirio at foddi'r pentref ger Y Bala yn 1965 i greu cronfa ddŵr ar gyfer trigolion Lerpwl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2019